大象传媒

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: Dau 'ddigwyddiad difrifol' arall

  • Cyhoeddwyd
Bu gwasanaethau fasgwlar y bwrdd iechyd yn destun adroddiad damniol ym mis Chwefror
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu gwasanaethau fasgwlar y bwrdd iechyd yn destun adroddiad damniol ym mis Chwefror

Bydd trefniant dros dro i drin cleifion fasgwlar o ogledd Cymru yn Lerpwl yn parhau am yn hirach na'r disgwyl ar 么l dau "ddigwyddiad difrifol arall".

Cafodd gwasanaeth dros dro ei gyflwyno ar 17 Mawrth am 28 diwrnod yn dilyn dau ddigwyddiad ddechrau'r mis.

Ond ddydd Mercher fe glywodd aelodau'r bwrdd y bydd y trefniant yn cael ei gadw yn ei le tan ganol Mai wedi i ddau ddigwyddiad ychwanegol ddal sylw rheolwyr.

Mewn cyfarfod arbennig o'r bwrdd ddydd Mercher, cafodd diweddariad ei roi am y gwasanaeth dros dro gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Meddygol, Dr Nick Lyons.

"Rydym yn cadw golwg fanwl ar bethau ac ers cychwyn y trefniant dros dro mae dau ddigwyddiad pellach wedi bod sydd wedi peri i ni oedi ac ystyried a oes angen mesurau pellach," meddai.

Ni chafodd manylion y ddau ddigwyddiad eu trafod, ond fe ddywedodd Dr Lyons eu bod wedi cyfrannu at y penderfyniad i ymestyn y trefniant dros dro hyd at 23 Mai.

Bydd rhagor o drafod rhwng timau gwahanol wrth symud cleifion rhwng safleoedd hefyd.

Mor芒l staff yn 'fregus'

Mae'r trefniant ddaeth i rym ar 17 Mawrth yn golygu bod rhagor o ymgynghorwyr ar ddyletswydd ar yr un pryd, gyda chefnogaeth ychwanegol yn cael ei gynnig gan ymgynghorwyr yn Lerpwl.

Fe ddywedodd Dr Lyons ddydd Mercher nad oedd unrhyw gleifion wedi gorfod mynd i Lerpwl am driniaeth ers dechrau'r gwasanaeth dros dro.

Doedd yr effaith ar lawdriniaethau ac apwyntiadau heb fod mor sylweddol ag yr oedden nhw wedi ei ddisgwyl ychwaith, meddai.

Ond fe gyfaddefodd Dr Lyons fod mor芒l ymhlith staff yn "fregus".

"Mae gennym staff ymroddedig sy'n ceisio rhoi'r gofal gorau i'w cleifion o dan amodau digon anodd weithiau," meddai.

"Pan mae pethau'n mynd o'i le, mae hynny'n gwbl ofnadwy i'r cleifion a'u teuluoedd, ond mae'n bwysig hefyd cydnabod yr effaith ar staff sy'n dod i'r gwaith i geisio gwneud rhywbeth da ac yn angerddol am y gofal mae nhw'n ei roi i gleifion."

Yn 2019, fe wnaeth y bwrdd ganoli triniaethau fasgwlar cymhleth o Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn Ysbyty Glan Clwyd.

Maen nhw wedi bod o dan y lach ers hynny, gyda dau adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a rhybudd terfynol gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar.

Ym mis Chwefror, fe ddywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan y gallai'r bwrdd ddychwelyd i fesurau pellach o fewn tri mis os na fydd gwelliannau.

Yn sgil y datblygiad diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am y gwasanaeth fasgwlar yng ngogledd Cymru ac mae'r Gweinidog Iechyd wedi bod yn glir bod angen i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael 芒'r materion gwasanaeth hyn ar unwaith.

"Rydym yn gofyn am sicrwydd gan y bwrdd yn wythnosol ar effeithiolrwydd y model gwasanaeth dros dro hwn ac yn gweithio gyda nhw i ddatblygu datrysiadau tymor hir priodol."

Mae'r bwrdd iechyd wedi cael cais i ymateb.