Gofal plant: Galw am ehangu cynllun di-d芒l
- Cyhoeddwyd
Mae angen ehangu'r ddarpariaeth o ofal plant am ddim yng Nghymru, yn 么l aelodau un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae'r rhybudd bod y system bresennol yn rhy gymhleth a bod rhieni'n cael trafferth deall pa gymorth sydd ar gael.
Ar hyn o bryd, mae'r Cynnig Gofal Plant yn golygu bod rhieni plant tair neu bedair oed, sy'n gweithio, yn cael hawlio hyd at 30 awr yr wythnos am ddim.
O dan gytundeb cydweithredu Llafur a Phlaid Cymru, bydd hynny'n cael ei ymestyn i blant dwy oed mewn rhai ardaloedd o fis Medi ymlaen.
Fe fydd cam cyntaf y newid yn gweld rhagor o lefydd am ddim mewn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn ledled y wlad yn raddol.
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn galw am gynyddu'r cymorth ychwanegol sydd ar gael mewn ardaloedd lle'r gweithredir y cynllun Dechrau'n Deg.
Mae'r adroddiad, fydd yn cael ei drafod yn y Senedd yn ddiweddarach, yn dweud bod angen rhagor o waith hyrwyddo er mwyn egluro yn iawn pa gymorth sydd ar gael.
Beth yw'r ddarpariaeth bresennol?
Ers 2008 mae awdurdodau lleol yn darparu o leiaf 10 awr o addysg feithrin Cyfnod Sylfaen am ddim bob wythnos ar 么l eu pen-blwydd yn dair oed yn llawn amser;
Mae llawer o rieni sy'n gweithio yn gymwys i gael 20 awr ychwanegol o ofal am ddim i blant 3 a 4 oed bob wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn, o dan y Cynnig Gofal Plant;
Mae rhaglen Dechrau'n Deg yn darparu gofal plant am ddim am 12.5 awr yr wythnos i blant mewn ardaloedd difreintiedig o'r tymor ar 么l eu pen-blwydd yn ddwy oed tan y tymor ar 么l eu trydydd pen-blwydd.
Dywed Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru fod y ddarpariaeth bresennol yn cynnig rhywfaint o gymorth i rieni, yn enwedig mamau, i fynd yn 么l i'r gwaith.
Ond maen nhw'n dweud bod diffyg darpariaeth ar gyfer plant dan dair oed ac anghysondebau ar draws Cymru yn rhwystr i hynny.
Maen nhw'n galw am i gymorth gofal plant ddechrau'n gynt o lawer, pan fo'r plentyn yn 6 mis oed.
Mae Alice Spence, o Gaerdydd, yn gweithio ym maes lletygarwch.
Mae hi'n gwario 拢450 y mis ar ofal plant i'w mab 16 mis oed Teddy.
"Mae'n eitha' lot, o ystyried dyna dwi'n ei ennill mewn wythnos, achos dwi'n rhan-amser ar hyn o bryd.
"Allwn i ddim fforddio i mi fynd yn 么l yn llawn amser, oherwydd gallai ddim fforddio meithrinfa llawn amser, felly mae'n lot fawr o arian i ni, pan mae gennym ni filiau rhent ac ynni sy'n codi hefyd," meddai.
'Dim help'
Mae'n rhaid iddi bwyso a mesur y gost o ddychwelyd i'r gwaith a chostau gofal plant.
"Cyn i fy nghyfnod mamolaeth ddod i ben, roedd yn rhaid i mi edrych ar fy sefyllfa ariannol a phenderfynu a fyddai'n werth i mi fynd yn 么l i'r gwaith, oherwydd ar 么l talu am ofal plant a chludiant, dydw i ddim yn elwa'n ariannol.
"Y dewis sydd genna'i ydi aros gartref ar Gredyd Cynhwysol llawn, ond os nad ydw i'n gweithio, dydw i ddim yn cael unrhyw help tuag at ofal plant," meddai.
Mae adroddiad yn nodi "nodweddion gwahanol" yn y ddarpariaeth bresennol gan ddweud bod y system yn "gymhleth."
Mae'n ychwanegu, er bod rhieni'n ymwybodol o'r Cynnig Gofal Plant, mae'n dod i'r casgliad "nad yw llawer yn ei ddeall yn llawn."
Mae'n galw am gymryd camau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r cymorth gofal plant sydd ar gael i rieni.
Bydd Aelodau'r Senedd yn trafod adroddiad y pwyllgor yn ddiweddarach ddydd Mercher ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021