大象传媒

James 'Cubby' Davies yn ymddeol o rygbi oherwydd effeithiau cyfergyd

  • Cyhoeddwyd
James DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwaraeodd James Davies 101 o weithiau i'r Scarlets

Mae blaenasgellwr Cymru a'r Scarlets James Davies wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi oherwydd effeithiau cyfergyd.

Dyw'r chwaraewr 31 oed, sy'n cael ei adnabod fel Cubby, heb chware ers ennill ei 11eg i Gymru yn erbyn Georgia yn Hydref 2020.

"Rwy' wedi mwynhau pob munud o fy ngyrfa yma gyda'r Scarlets ac wedi gwneud ffrindiau anhygoel tra yma," meddai Davies, sy'n frawd i'r canolwr rhyngwladol Jonathan Davies.

"Ond ar 么l siarad gydag arbenigwyr mae'n eitha' clir na alla i barhau i chwarae.

"Ar hyn o bryd, diolch byth, rwy'n gallu byw bywyd normal, rhywbeth o'n i methu ei wneud am amser hir ar 么l cael y gnoc.

"Gallai unrhyw ergyd i'r pen wrth hyfforddi neu mewn g锚m olygu fod e'n mynd i ddechrau hyn oll eto, sy'n rhywbeth dwi ddim eisiau ystyried," meddai.

"Ma' fe 'di bod yn gyfnod anodd, ond mae'r gefnogaeth dwi wedi ei gael gan fy nheulu, ffrindiau, cyd-chwaraewyr a hyfforddwyr wedi bod yn anhygoel, a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

James Davies yw brawd iau y canolwr rhyngwladol Jonathan Davies.

Fe chwaraeodd Davies ei g锚m gyntaf i'r Scarlets yn 2013, gan ymddangos 101 o weithiau i'r rhanbarth.

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel: "Mae Cubby wedi bod yn chwaraewr rhyfeddol ac un un o fawrion y Scarlets, chwaraewr oedd yn rhoi popeth i'r crys ac roedd yn gymeriad mawr."

Dywedodd hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, ei fod yn drist o glywed y newyddion am ymddeoliad Davies.

"Roeddwn yn ddigon ffodus i'w hyfforddi ar lefel clwb ac ar lefel gwlad," meddai. "Nid yn unig yw e yn chwaraewr da ond mae'n berson da hefyd."

Pynciau cysylltiedig