Cerbydau Ajax: 60 o swyddi yn y fantol yn General Dynamics
- Cyhoeddwyd
Mae 60 o swyddi yn y fantol yng nghwmni sy'n adeiladu cerbyd arfog yn ne Cymru.
Mae General Dynamics yn cyflogi 800 o bobl ym Merthyr Tudful ac Oakdale, Sir Caerffili ac yn cefnogi dros 4,000 o swyddi ar draws y DU.
Ond mae amheuon am ddyfodol prosiect Ajax - cerbyd sy'n cael ei adeiladu ar gyfer y fyddin - yn bennaf oherwydd problemau gyda s诺n a dirgryniadau.
Mae'r cerbydau'n cael eu rhoi at ei gilydd ym Merthyr, ond fe allai hyd at 60 o bobl eu diswyddo yno ac yn Oakdale.
Dywedodd llefarydd ar ran General Dynamics UK: "Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflwyno'r Rhaglen Ajax i'r Fyddin Brydeinig.
"Rydym yn ymgysylltu'n uniongyrchol 芒'r gweithwyr sydd wedi'u heffeithio ac [undeb] UNITE wrth i ni ymgymryd 芒'r broses hon."
Dywedodd UNITE wrth 大象传媒 Cymru fod y newyddion am y diswyddiadau yng Nghymru ac yn Cheltenham wedi dod ar 23 Mawrth.
"Mae Unite yn rhan o'r ymgynghoriad ffurfiol sy'n effeithio ar y Graddau Cynhyrchu ym Merthyr Tudful," meddai llefarydd.
"Mae ymgynghoriad ffurfiol sy'n effeithio ar weithwyr yn Oakdale a Cheltenham yn cael ei gynnal ar wah芒n heb gyfranogiad Undeb Llafur gan nad oes cydnabyddiaeth Undeb Llafur i weithwyr yn y safleoedd hynny."
'Newyddion syfrdanol'
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Aelod Seneddol ac Aelod o'r Senedd Merthyr Tudful a Rhymni, Gerald Jones a Dawn Bowden, fod y newydd am y diswyddiadau posib yn "ergyd i'r gymuned".
"Rydym wedi cyfarfod 芒 staff ac undebau llafur sawl gwaith ac rydym yn gwybod am y gwaith caled a'r ymroddiad y maen nhw wedi'i roi i'r cwmni ac i'r sector amddiffyn," medden nhw.
"Byddwn yn cyfarfod ag undebau llafur yn fuan i drafod y cyhoeddiad syfrdanol heddiw a sut y gellir cefnogi staff orau."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) na fyddai'n "derbyn cerbyd nad yw'n addas i bwrpas".
Ond ychwanegodd fod yr MoD yn gweithio gyda'r gwneuthurwr i ddatrys problemau s诺n a dirgrynu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2022