Mwslemiaid Cymru yn edrych ymlaen at Ramadan heb gyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae'n benwythnos cyntaf cyfnod Ramadan i gymuned Fwslemaidd Cymru ac mae Mwslemiaid yn falch o'r cyfle i nodi'r mis o ymprydio heb unrhyw gyfyngiadau Covid am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Bwriad y mis yw helpu Mwslemiaid i ddyfnhau eu ffydd, ymgymryd 芒 gwaith elusennol ac ailgysylltu yn ysbrydol cyn dathliad mawr Eid.
Yn 16 oed, mae Mahum Umer wedi hen arfer clywed ei chyd-ddisgyblion yn holi cwestiynau am beth yn union yw Ramadan yr adeg hon o'r flwyddyn.
"Weithiau rwy'n cael yr un cwestiynau. Fel os ydw i'n dweud sai'n cael bwyta nac yfed a maen nhw fel, be dim hyd yn oed d诺r? Ie dim hyd yn oed d诺r," mae'n dweud gan chwerthin.
Mae Mahum yn dweud ei bod hi'n dwlu egluro beth yw Ramadan i'w chyd-ddisgyblion - ac mae hi'n edrych ymlaen i gymryd rhan yn llawn yn yr ymprydio eleni.
"So na i godi cyn i'r haul godi tua 5 o'r gloch neu 4 o'r gloch y bore a bydda i'n bwyta bwyd gyda'r teulu fel arfer. Byddwn ni gyd - y rhai sy'n ymprydio - yn codi wrth gwrs ac wedyn bydda i'n mynd n么l i gysgu!
"Os mae'n heulog, mae'n mynd i fod bach yn flinedig a rwy' weithiau'n cael pen tost felly rwy'n 'neud yn si诺r bo fi'n yfed digon pan fi'n gallu. Mae jyst fel arfer rili ond y peth gwahanol efo'r mis yma yw bod mwy o ffocws ar wedd茂o a chymryd amser i ddarllen y Coran a phethau fel yna - felly rwy'n gwneud amser i wneud hynny oherwydd mae'n amser rili sbeshal i neud hynna.
"Pan mae'r haul yn machlud - byddwn ni'n agor y fast efo pryd neis o fwyd. Mae'r dyddiau cynta' a'r dyddiau olaf wastad yn rili sbeshal gan bod pryd mawr yn cael ei greu."
Ar 么l dwy flynedd o gyfyngiadau mae eleni'n teimlo'n gyfnod arbennig i Mahum a'i theulu.
"Dros y ddwy flynedd d'wethaf mae Ramadan wedi edrych bach yn wahanol. Do'n ni ddim yn cael mynd i'r mosg o gwbl a do'n ni ddim yn cael mynd i wedd茂o na gweld teulu tu fas i'r t欧. Oedd e'n anodd wrth gwrs i bawb.
"Mae'r amser yma o'r flwyddyn yn sbeshal rili. Y flwyddyn yma fi'n gyffrous i allu dathlu mwy efo'r teulu a'r gymuned... Fi'n gwbod bod y mosgiau ar agor nawr a ma llawer o'r mosgiau efo rheolau mewn lle fel y gallwn ni wedd茂o a dod at ein gilydd mewn modd diogel."
Fel un sydd yn astudio agweddau Mwslemiaid ym Mhrydain at gyfnod Ramadan mae'r myfyriwr doethuriaeth Laura Jones yn dweud bod llawer o Fwslemiaid wedi mwynhau'r cyfle i ganolbwyntio ar eu ffydd yn ystod cyfnod cyfyngiadau'r pandemig.
Canolbwyntio mwy yn y pandemig
"Roedd hynny yn anodd i rai pobl gan bo nhw methu mynd i'r mosg ond ar y llaw arall ro'n i'n ffeindio roedd rhai pobl yn dweud bod rhywbeth rili da am gael Ramadan yn y cyfnod clo gan eu bod nhw'n gallu canolbwyntio ar Dduw mwy achos bo nhw heb y distractions eraill fel gwaith, neu ysgolion - roedd ysgolion ar gau ar y cyfnod hefyd," meddai.
"Ro'n nhw wedi cael amser i fyfyrio a meddwl am Dduw ac roedd pobl yn gwerthfawrogi y ffaith bod nhw'n gallu treulio amser gyda'r teulu, gwedd茂o gyda'r teulu, treulio amser yn ystod y dydd yn gwneud gweithgareddau, coginio gyda'n gilydd - pethau fel yna. Roedd rhai pobl yn dweud bo nhw'n hoffi cymryd amser, yn enwedig i wedd茂o, gyda'i gilydd."
Eleni, mae Laura yn dweud bod y gymuned Fwslemaidd yn paratoi i wahodd y gymuned ehangach i ymuno yng ngweithgareddau Ramadan. Mae gan Criced Morgannwg gynlluniau i gynnal twrnament arbennig i ganiat谩u i Fwslemiaid barhau i chwarae criced wedi iddi nosi ac mae gan Golf Wales gynlluniau tebyg.
Gweithgareddau'r mosg fydd yn denu Laura a'i theulu.
"Dwi'n meddwl bod pobl yn edrych ymlaen at fynd n么l i'r mosg - yn enwedig i 'neud pethau cymunedol - fel bwyta gyda'n gilydd ond hefyd i wahodd y gymuned ehangach i'r mosg hefyd.
"Dwi wedi gweld bod y mosgiau yn paratoi digwyddiadau rhyng-ffydd neu ddigwyddiadau mwy agored i ddweud dyma beth yw Ramadan - dyma sut ni'n dathlu ac yn gwahodd pobl aton ni.
"Dwi'n meddwl bod e'n bwysig i roi gwybod i bobl beth yw Ramadan, beth mae ymprydio yn ei olygu ond hefyd dwi'n meddwl bod Mwslemiaid eisiau dweud wrth bobl bo fe ddim jyst am beidio bwyta ac yfed. Mae pethau eraill yn bwysig hefyd - fel ysbrydoliaeth Ramadan a bod yn nes at Dduw.
"Mae pobl rwy' wedi siarad 芒 nhw yn dweud mai pethau fel yna sydd fwyaf pwysig am Ramadan.
"Mae Ramadan yn gyfnod hollol gymdeithasol. Hyd yn oed os o't ti ddim yn gallu mynd i'r mosg, ti'n ymprydio gyda pobl yn dy deulu neu dy gymuned neu gyda pobl o gwmpas y byd. Mae pawb yn 'neud yr un peth yr un pryd a ti'n cynyddu dy addoliadau yn ystod Ramadan hefyd - felly mae'r pethau cymdeithasol yn ganolog i'r mis hefyd."
Eleni bydd Laura yn gallu mynd 芒'i mab bach Jalal i'r mosg am y tro cyntaf yn ystod Ramadan.
"Hoffwn i fynd gyda fy mab i iftar gyda phobl eraill oherwydd dydi e ddim wedi gwneud hynna eto oherwydd ei fod e'n ifanc. Hoffwn i ddangos y mosg iddo fe a'r holl awyrgylch.
"Roedd rhai pobl yn dweud bo nhw wedi mwynhau Ramadan yn ystod y cyfnod clo ond wedi stryglo gyda Eid achos bod Eid yr amser pan wyt ti'n cwrdd 芒'r teulu drwy'r dydd, cwrdd 芒'r gymuned, bwyta mas a phethau fel 'na - felly rwy'n meddwl bydd Eid yn siawns i ddathlu a bod gyda phobl eraill hefyd," ychwanegodd Laura Jones.
Edrych ymlaen
I Mahum hefyd, bydd gallu mynd i'r mosg i dorri ympryd a rhannu pryd iftar heb gyfyngiadau eleni yn bwysig.
"Mae'r amser yma o'r flwyddyn yn gyffredinol yn amser pwysig - nid yn unig am hunan-ddisgyblaeth ond am wario amser efo'r gymuned.
"Ni'n cael pryd o fwyd ar y diwedd efo'r teulu. Bob blwyddyn mae'n draddodiad mynd i dy nain i agor ein fast neu i ddathlu Eid. Wrth gwrs, o'n ni methu neud hwnna [yn ystod y pandemig] ac odd e'n really weird actually - yn enwedig yn ystod Ramadan. O'dd e jyst ni yn y t欧, oedd e'n really odd. Odd e'n eitha trist. O'n ni dal yn hapus bo fe'n Ramadan ond o'n i bach yn drist bo ni methu neud e gyda'r teulu ac o'n ni methu gwedd茂o yn y mosg.
"Mae'n rili hwyl, mae'n chaotic - felly dyna un o'r pethe fi'n edrych 'mlaen ato fwyaf y flwyddyn yma achos o'n ni methu 'neud e flwyddyn d'wethaf. Mae pawb yn gweld ei gilydd - mae'r elfen gymdeithasol yn rili bwysig fi'n credu," ychwanegodd Mahum.
Mae modd clywed mwy am brofiadau Mahum Umer a Laura Jones yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg, ddydd Sul am 12.30 ac yna ar 大象传媒 Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2015