Wylfa: Gobaith am 'gam yn nes' gydag ymweliad UDA
- Cyhoeddwyd
Bydd Ysgrifennydd Cymru yn teithio i'r Unol Daleithiau er mwyn hybu'r syniad o orsaf ynni niwclear newydd yn y gogledd.
Yr wythnos hon bydd Simon Hart yn ymweld 芒 gorsaf Vogtle yn nhalaith Georgia, sy'n cael ei hadeiladu gan ddau gwmni sydd mewn trafodaethau dros gynlluniau ar gyfer safle Wylfa ar Ynys M么n.
Gobaith Mr Hart yw bydd yr ymweliad "yn ein symud gam yn nes" at wireddu gorsaf niwclear newydd ar yr ynys.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei fod "o ddifrif dros niwclear ar raddfa fawr".
Ond cadarnhaodd Mr Hart nad yw strategaeth ynni'r DU, sydd i'w chyhoeddi ddydd Iau, yn debygol o grybwyll Wylfa yn benodol.
Mae gorsaf Vogtle yn cael ei hadeiladu gan y cwmni peirianneg Bechtel ac yn cynnwys dau adweithydd Westinghouse.
Y llynedd datgelodd swyddogion Llywodraeth y DU fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r ddau gwmni yngl欧n 芒 safle Wylfa.
Ond mae'r cynllun Americanaidd yn rhedeg yn hwyr, gydag adroddiadau o oedi pellach dros y misoedd diwethaf.
Yn siarad gyda 大象传媒 Cymru dywedodd Mr Hart bydd y datganiad ddydd Iau yn amlinellu "beth yw uchelgeisiau'r DU ar gyfer niwclear yng nghyd-destun diogelwch ynni a dibynadwyedd".
Ychwanegodd: "Yr hyn mae Bechtel a Westinghouse eisiau ei glywed gennym ni, a byddan nhw'n ei glywed gen i... ydy ein bod o ddifrif yngl欧n 芒 niwclear ar raddfa fawr yn y DU, ac yn arbennig ar y safle gwych hwn [ym M么n].
"Rhan o'r cynllun yw rhyddhau arian, maes o law, o gronfa niwclear y dyfodol, a fydd yn eu galluogi nhw i ddatblygu achos busnes, ac i ni allu gobeithio bydd yr Unol Daleithiau'r a'r DU yn dod i gytundeb ar un o'r datblygiadau niwclear mwyaf o fewn y cyfnod diweddar.
"Os yw ymweliad wythnos yma yn ein symud gam yn nes at y sefyllfa honno, yna fe fydd yn werth chweil."
Ychwanegodd byddai'r daith yn ceisio sefydlu'r rhesymau am oedi gorsaf Vogtle, ond hefyd bod yna "arwyddion calonogol iawn" yn dod o Stad y Goron am yr hyn sy'n bosib gyda'r M么r Celtaidd, oddi ar arfordir y gorllewin, yn sgil ynni'r m么r.
Aeth ymlaen i ddweud: "Os gawn ni arwyddion calonogol gan Lywodraeth y DU, gan fy nghydweithwyr ddydd Iau, yngl欧n 芒 ble mae niwclear yn ffitio o fewn ein cynlluniau, yna dwi'n meddwl y bydd yn ffynhonnell rhywfaint o optimistiaeth i bobl sydd wedi cael eu harwain yn 么l a 'mlaen gan Wylfa yn y gorffennol.
"Yn amlwg rydym am geisio osgoi gwneud hynny eto. Rydym am i hyn ddigwydd yn gynt yn hytrach na hwyrach."
Cyhoeddi'r strategaeth
Mae disgwyl i'r Strategaeth Ynni ddangos sut bydd y DU yn sefydlu ffynonellau ynni mwy sicr dros y blynyddoedd i ddod, ynghyd 芒 chyrraedd targedau i leihau allyriadau carbon yn raddol.
Mae gofynion diogelwch wedi cynyddu ers i Rwsia ymosod ar Wcr谩in gan godi'r bygythiad moesol a real i gyflenwadau nwy ac olew.
Dros y penwythnos, dywedodd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth Prydain, Kwasi Kwarteng, y gallai chwech neu saith o adweithyddion niwclear newydd gael eu hadeiladu erbyn 2050.
Adroddwyd hefyd bod gweinidogion wedi cytuno i sefydlu corff datblygu newydd o'r enw Great British Nuclear, i nodi safleoedd, torri drwy fiwrocratiaeth i gyflymu'r broses gynllunio, a chasglu cwmn茂au preifat ynghyd i redeg pob safle.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022