Parcffordd Caerdydd: S锚l bendith i orsaf drenau newydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i godi gorsaf drenau newydd yn nwyrain Caerdydd wedi cael eu cymeradwyo.
Bydd gorsaf Parcffordd Caerdydd yn cael ei chodi ar dir amaethyddol yn Llaneirwg, rhwng Cypress Drive a Heol Las.
Nid yw'n glir pa bryd fydd gwaith adeiladu'n dechrau ond mae'n fwriad i agor yr orsaf yn 2024.
Mae parc busnes cyfagos hefyd wedi cael caniat芒d cynllunio, ond mae yna bryderon ynghylch uchder y swyddfeydd a'r effaith ar ecoleg a bywyd gwyllt yr ardal.
Cafodd y datblygiad ei gymeradwyo ddydd Mercher, ond yn 么l y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol fe gododd rhai cynghorwyr bryderon gan fod y safle ar bwys ymyl Lefelau Gwent.
Mae mwyafrif yr adeiladau yn yr ardal ond yn rhai deulawr a'r tir yn wastad ond fe allai'r parc busnes gynnwys adeiladau gyda hyd at 15 llawr, gan gynnig 90,000 metr sgw芒r o ofod masnachol.
"Rwy' 100% o blaid yr orsaf drenau, ond mae yna bris mawr i'w dalu o'i gael," meddai'r Cynghorydd Iona Gordon.
"Rydym angen ac yn dymuno cael gorsaf ond [fe ddaw yn sgil] cost datblygu anferthol ac adeiladau uchel ar Wastadau Gwent ac rwy'n wirioneddol bryderus ynghylch yr effaith y bydd hwn yn ei gael."
'Buddsoddiad mewn ardal sydd ei angen'
Cwmni preifat Cardiff Parkway Developments Ltd fydd yn gyfrifol am y prosiect, a fydd yn derbyn 拢5m gan Lywodraeth Cymru - un o gyfranddalwyr y cynllun.
Mae'r datblygwyr wedi dweud y bydd ond yn cymryd saith munud i deithio rhwng yr orsaf newydd a gorsaf Caerdydd Canolog, a bod potensial o 6,000 o swyddi yn y parc busnes.
Dywedodd cadeirydd Cardiff Parkway Developments, Nigel Roberts: "Bydd y project yn dod 芒 buddsoddiad i ardal o Gaerdydd sydd ei angen, yn creu cyfleoedd gwaith newydd, ac yn cysylltu pobl yn well yn y rhan yma o dde-ddwyrain Cymru."
Roedd llawer o drigolion yr ardal o blaid cael gorsaf drenau a'r addewid o deithiau byrrach, ond roedd hwythau hefyd yn bryderus ynghylch maint rhai o'r adeiladau a'r effaith ar fywyd gwyllt.
Mae'r cynlluniau'n amodol ar warchod dyfrffyrdd pwysig, plannu coed newydd yn lle rhai fydd angen eu torri, a chreu coridorau ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig.
Bydd yna barc newydd hefyd, ynghyd 芒 llwybrau cerdded a seiclo.
Dywed y cyngor bod dim penderfyniad eto ynghylch uchder terfynol yr adeiladau - 15 llawr yw'r uchafswn ond nid dyna o reidrwydd fydd yn cael ei godi yn y pen draw.
Does dim gorsaf drenau ar hyn o bryd yn nwyrain Caerdydd, ers cau gorsaf pentref Maerun, i'r dwyrain o Laneiwg, yn 1959.
Mae'r datblygwyr yn amcangyfrif y bydd yr orsaf newydd yn gwasanaethu 800,000 o deithwyr y flwyddyn, gydag wyth tr锚n bob awr i Gaerdydd a Chasnewydd, a theithiau uniongyrchol i Lundain, gogledd Cymru, Manceinion a Bryste.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2019