大象传媒

Dau yn y llys mewn cysylltiad 芒 marwolaeth Jack Lis

  • Cyhoeddwyd
Jack LisFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Jack Lis o'i anafiadau wedi'r ymosodiad arno fis Tachwedd y llynedd

Mae dau berson wedi ymddangos o flaen ynadon mewn cysylltiad 芒 marwolaeth bachgen 10 oed o Gaerffili yn dilyn ymosodiad arno gan gi.

Bu farw Jack Lis ar 8 Tachwedd y llynedd yn dilyn yr ymosodiad mewn t欧 ym Mhentwyn, Penyrheol.

Mae Amy Salter, 28 oed ac o Drethomas, a Brandon Hayden, sy'n 19 oed ac o Benyrheol, wedi eu cyhuddo o fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth gan achosi niwed a arweiniodd at farwolaeth.

Fe gafodd y ddau eu rhyddhau ar fechn茂aeth ar yr amod nad ydyn nhw'n meddu ar, neu'n gofalu am, gi.

Mae disgwyl iddyn nhw fynd o flaen Llys Y Goron Casnewydd fis nesaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i Brandon Hayden ac Amy Salter ymddangos yn Llys y Goron fis nesaf

Clywodd llys ynadon y ddinas ddydd Iau bod ci mawr o'r enw Beast yng ngofal Mrs Salter yn ei chartref pan ymosododd ar Jack.

Mae Brandon Hayden hefyd yn wynebu pum cyhuddiad o fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth, gan gynnwys dau o achosi anaf.

Honnir i'r achosion hyn ddigwydd rhwng 4 a 7 Tachwedd, cyn yr ymosodiad ar Jack Lis.

Clywodd y llys mai Mr Hayden oedd yn berchen ar Beast pan ymosododd y ci ar bobl ger siopau yn y dyddiau cyn yr ymosodiad angheuol.

Bu farw Jack, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor, Caerffili, yn y fan a'r lle.

Cafodd y ci ei ddifa gan swyddogion heddlu arfog.

Pynciau cysylltiedig