大象传媒

Lleihad pellach i lefel diweithdra Cymru

  • Cyhoeddwyd
diweithdra

Fe wnaeth lefel diweithdra Cymru ddisgyn ychydig unwaith eto yn y tri mis hyd at fis Chwefror, yn 么l data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) ddydd Mawrth.

Roedd 45,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru yn y tri mis hyd at fis Chwefror.

Mae hynny'n gyfystyr 芒 chyfradd diweithdra o 3% yng Nghymru, o'i gymharu 芒 3.8% ar gyfer y DU gyfan.

O'i gymharu 芒'r chwarter blaenorol, rhwng mis Medi a mis Tachwedd, fe wnaeth nifer y bobl oedd yn ddi-waith yng Nghymru ddisgyn o 6,000, neu 0.4%.

Mae'r farchnad lafur wedi aros yn sefydlog yng Nghymru, gyda'r ffigyrau diweddaraf yn debyg ar y cyfan i'r rheiny gafodd eu cyhoeddi fis yn 么l.

Fe wnaeth nifer y swyddi oedd ar gael rhwng mis Ionawr a mis Mawrth gyrraedd ei lefel uchaf, sef 1,288,000.

Mae hyn 492,400 yn uwch na chyn y pandemig.

Mae cyflogau wedi codi i weithwyr drwy'r DU - gyda'r ONS yn adrodd cynnydd o 5.4% i gyfanswm t芒l cyfartalog.

Ond wrth i brisiau gynyddu, fe wnaeth t芒l godi o 0.4% mewn termau real wrth ystyried chwyddiant.

Pynciau cysylltiedig