´óÏó´«Ã½

Diddymu'r angen i fusnesau gynnal asesiad risg Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Menyw mewn siopFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd busnesau yn parhau i gael eu "hannog i gymryd camau i weithredu mewn modd diogel o ran Covid"

Ni fydd busnesau yng Nghymru yn gorfod gwneud asesiadau risg Covid o ddydd Llun ymlaen.

Roedd hwnnw'n un o ddau fesur coronafeirws oedd yn parhau mewn grym gan Lywodraeth Cymru.

Ond bydd rheol yn ymwneud â gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau iechyd a gofal cymdeithasol yn aros yn ei lle am o leiaf tair wythnos arall.

Yn ôl y Prif Weinidog, bydd y rheol honno'n helpu i reoli lledaeniad Covid lle mae rhai o'r "bobl fwyaf bregus" yn cael eu trin neu'n byw.

Daw'r penderfyniad i gael gwared â'r cyfyngiadau ar fusnes er bod y data o ran samplau yn awgrymu bod nifer yr achosion ar ei huchaf erioed.

'Cynnydd mewn heintiau'

Er y newid gan y llywodraeth, dywedodd Mark Drakeford fod hynny "ddim yn golygu fod y pandemig drosodd".

Ychwanegodd: "Yn anffodus, mae'r coronafeirws dal yma - ry'n ni wedi gweld cynnydd mewn heintiau dros y mis diwethaf, gyda niferoedd mawr o bobl yn mynd yn sâl a chynnydd yn y niferoedd sy'n gorfod mynd i ysbyty.

"Ry'n ni'n gobeithio ein bod yn dechrau troi cornel. Ond mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn parhau i gymryd camau i ddiogelu ein gilydd."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Yn adolygiad diwethaf Llywodraeth Cymru, cafwyd gwared ar y rheolau fu'n gorfodi pobl i wisgo gorchuddion wynebu mewn siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus ac i hunan-ynysu os oedd gan rywun y feirws.

Cafodd y mesurau hynny eu newid i fod yn gyngor.

O dan gyfraith Gymreig, bu gofyn i gwmnïau a sefydliadau asesu'r risg Covid o fewn eu gweithlu.

Bu'n rhaid iddyn nhw gymryd camau i sicrhau diogelwch eu safleoedd, gan gynnwys dulliau awyru, defnyddio sgriniau neu rwystrau a lleihau cyswllt agos rhwng pobl.

Roedd y rheiny oedd yn anwybyddu'r rheolau yn wynebu dirwyon.

'Busnesau i wneud popeth o fewn eu gallu'

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd busnesau yn parhau i gael eu "hannog i gymryd camau i weithredu mewn modd diogel o ran Covid".

Bydd gweithleoedd yn parhau i orfod dilyn cyfrifoldebau cyfreithiol eraill, fel y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rheolau ar wisgo mwgwd mewn mannau iechyd a gofal cymdeithasol yn aros mewn grym

Mae pennaeth Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru wedi croesawu'r penderfyniad.

"Bydd busnesau yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod staff a chwsmeriaid yn saff," meddai Ben Cottam.

'Rhy hwyr eto'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "Mae cael gwared ar y fiwrocratiaeth ddiangen ar fusnes i'w groesawu, ond unwaith eto mae hynny wedi dod yn rhy hwyr gyda phenwythnos hir Gŵyl y Banc eisoes yma.

"Mae angen gwneud yn glir i bawb fod Cymru ar agor i fusnes."

Ychwanegodd Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru ei bod yn "bwysicach nag erioed i'r llywodraeth ddarparu cynllun arwyddocaol ar gyfer adfer y GIG".

"O gynlluniau'r gweithlu i gael cleifion trwy'r ysbyty, mae cael y GIG yn ôl ar ei thraed a lleihau'r baich ar staff iechyd a gofal rheng flaen angen bod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth," meddai.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds hefyd yn falch o'r newid, ond mae hi wedi galw ar gyflwyno pedwerydd brechiad i rheiny dan 75 oed sy'n dymuno ei gael.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr amcangyfrif oedd fod un ym mhob 13 o bobl wedi'u heintio yn yr wythnos hyd at 2 Ebrill

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod 230,800 o bobl gyda Covid yng Nghymru yn yr wythnos orffennodd 2 Ebrill - y nifer uchaf erioed.

Y gred yw bod gan un ym mhob 13 o bobl y feirws yr wythnos honno.

Yn ôl ffigyrau o ddydd Mawrth, ar gyfartaledd roedd yna 819 o gleifion yn yr ysbyty gyda Covid. Mae hynny'n ostyngiad o 5% o wythnos yn ôl, ond mae ymgynghorwyr o'r farn y gallai godi.

Mae nifer y cleifion yn yr ysbyty gyda Covid yn uwch o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2021, ond mae nifer yr achosion yn sylweddol uwch.

Mae'r modelu ar gyfer ymgynghorwyr gwyddonol Llywodraeth Cymru yn awgrymu y gall nifer y bobl yn yr ysbyty godi i 1,700 o gleifion - a'r rheiny mewn gofal dwys fod hyd at 40 - cyn gostwng.

Yn gynharach yr wythnos hon, roedd nifer y marwolaethau yn ymwneud â Covid a gafodd eu cofrestru yng Nghymru wedi codi i'w nifer uchaf yn wythnosol mewn deufis, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Hyd at 1 Ebrill, roedd 61 o farwolaethau wedi eu cofrestru yn ymwneud â Covid, a bod hynny'n ffactor a gyfrannodd at y farwolaeth.