Arddangosfa a murlun i nodi gwaith adfer Cors Caron
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa newydd a murlun celf mosaig wedi cael eu dadorchuddio yn Nhregaron sy'n gysylltiedig 芒'r gwaith o adfer Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron.
Mae'n dilyn gwaith gan d卯m prosiect cyforgorsydd Cymru LIFE, Cyfoeth Naturiol Cymru i wella safon y gors tu fas i'r dre'.
Mae'r cyforgorsydd (raised bogs) yng Nghors Caron yn fyd-enwog, gyda miliynau o fetrau ciwbig o fawn hyd at ddyfnder o 10 metr wedi bod yn dal carbon ers dros 12,000 o flynyddoedd.
Mae'r arddangosfa a'r murlun mosaig sydd wedi eu gosod yng Nghanolfan Treftadaeth y Barcud Coch yn dangos y gwaith sy'n cael ei wneud i wella'r gors.
Mae'r gors ar gyrion Tregaron wedi gweld dyddiau gwell, yn 么l Dana Thomas o brosiect cyforgorsydd Cymru LIFE.
"Mae Cors Caron yn safle pwysig yn rhyngwladol, ac oherwydd hynny mae'r tair cyforgors sydd yng Nghors Caron yn bwysig hefyd," meddai.
"Ar hyn o bryd dy'n nhw ddim mewn cyflwr da a dy'n nhw ddim yn storio cymaint o garbon o'r atmosffer 芒 be' ma' nhw'n gallu.
"Beth mae'r prosiect yn trio gwneud yw gwella'r cyforgorsydd fel eu bod nhw'n wlypach - ma' hynny'n meddwl wedyn bod y mawndir o fewn y gyforgors yn cadw'n wlyb ac yn cadw mwy o garbon o'r amgylchedd, a ma' hynny'n helpu gyda newid hinsawdd."
Ychwanegodd Ms Thomas fod amryw o ffyrdd i wella safon cyforgorsydd y warchodfa.
"Ry'n ni wedi bod yn byndio - creu cloddiau mawn isel - a byndiau ry'n ni'n galw'r rheiny," meddai.
"Be' mae'r rheiny wedyn yn 'neud yw dilyn cyfuchliniau y gors, ac mae'r rheiny yn dal d诺r ar y gyforgors fel bod y safle yn cadw'n wlyb.
"Ry'n ni hefyd wedi bod yn torri gwair ar y safleoedd, a ma' hynny yn agor y safleoedd allan fel bod mwy o figwyn (mwsogl y gors).
"Migwyn yw'r planhigyn pwysig ar y gyforgors - hwnnw sy'n dadelfennu ac yn creu mawn ar ddiwedd y dydd."
Penderfynwyd bod angen adlewyrchu'r gwaith oedd yn cael ei wneud ar y gors yn y gymuned, ac felly cafodd yr artist cymunedol Pod Clare gais i ddylunio wyth teilsen fosaig tu fas i Ganolfan Treftadaeth y Barcud Coch yn Nhregaron.
Bu disgyblion o Ysgol Gynradd ac Uwchradd Henry Richard, trigolion cartref gofal Bryntirion yn Nhregaron, aelodau Canolfan Deulu Tregaron ac aelodau o'r gymuned leol yn helpu gyda'r gwaith o greu'r gwaith celf.
Mae Margaret Jones yn gwirfoddoli yng Nghanolfan Treftadaeth y Barcud Coch.
"Gaethon ni ymweliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac fe benderfynon nhw fod e'n lle eitha' da i hysbysebu eu gwaith nhw ar y gors lle maen nhw'n ceisio adfer y gors a chadw lefelau'r d诺r lan," meddai.
"Aethon ni ati wedyn i ofyn i Pod Clare ddylunio'r mosaig sy'n adlewyrchu'r gwaith sy'n digwydd ar y gors.
"Mae hi wedi bod yn braf i gael prosiect fel hyn, lle ma' gyda chi rai ifanc yn dod o Ysgol Henry Richard, a rhai o ganolfan henoed Bryntirion - mae e wedi bod yn dda iawn i bobl ddod i 'nabod ei gilydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd25 Mai 2021
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2021