'Anafiadau difrifol' i gerddwr ar 么l disgyn yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Cafodd cerddwr mynydd ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar 么l dioddef anafiadau difrifol wedi iddo ddisgyn yn Eryri.
Aeth Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a th卯m achub hofrennydd Gwylwyr y Glannau i gymorth y dyn ar 么l iddo ddisgyn o gyli ar Grib Gogleddol Tryfan ddydd Gwener.
Cafodd ei roi mewn stretsier a'i ostwng i leoliad addas cyn cael ei winsio i mewn i'r hofrennydd a'i hedfan i Ysbyty Gwynedd, Bangor am driniaeth.
Bu t卯m achub mynydd hefyd yn helpu cerddwr i ddiogelwch wrth iddi anafu ei ff锚r ar 么l llithro ar graig wlyb yn Llyn Cowlyd ddydd Gwener.
Ac fe gariodd gwirfoddolwyr drydydd person wedi'i anafu i ambiwlans oedd yn aros ar 么l iddo frifo ei goes tra mewn chwarel yn Neganwy, sir Conwy.
"Roedd dydd Gwener y Groglith yn ddechrau prysur i 糯yl y Banc," meddai'r mudiad.