Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dewch 芒 Chlogyn Aur Yr Wyddgrug yn 么l i Gymru'
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd Arbennig 大象传媒 Radio Cymru
Mae blogiwr blaenllaw a chyn-lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi galw am ddychwelyd clogyn aur - sydd tua 3,700 o flynyddoedd oed - yn 么l i Gymru.
Ar hyn o bryd mae Clogyn Aur yr Wyddgrug yn rhan o arddangosfa C么r y Cewri yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain.
Dywed yr amgueddfa ei fod yn un o atyniadau pwysicaf yr oriel Ewropeaidd a Dwyrain Canol.
Fe gafodd y clogyn neu'r fantell seremon茂ol, sy'n cael ei ddisgrifio fel "campwaith amhrisiadwy", ei greu yn ystod yr Oes Efydd Cynnar (tua 1900CC-1600CC).
Cafodd ei ddarganfod ym Mryn yr Ellyllon, sy'n ardal o'r Wyddgrug bellach, ym 1833.
Dywed Andrew Green fod y clogyn yn cael ei gadw yn yr Amgueddfa Brydeinig "am nad oedd amgueddfeydd cyhoeddus ar gael yng Nghymru pan ddaeth y clogyn i'r fei".
"Ond erbyn hyn mae amgueddfeydd ymhobman fwy neu lai ac mae yna achos cryf dros drosglwyddo neu fenthyca y clogyn i amgueddfa yng Nghymru, o bosib yn agos i'r fan lle cafodd y clogyn ei ddarganfod," meddai.
Darganfuwyd y clogyn gan weithwyr oedd yn cloddio am gerrig. Daethant o hyd i domen gladdu gron, oedd yn cynnwys sgerbwd, y fantell aur a nifer o eitemau eraill.
Mae'r fantell a'r arteffactau eraill wedi bod yn yr Amgueddfa Brydeinig byth ers hynny.
Ond yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae'r clogyn wedi cael ei fenthyca i'w arddangos yn Wrecsam ac yng Nghaerdydd.
Benthyca tymor hir
Yn 么l Mr Green heidiodd pobl i'w weld o bryd hynny.
"Ond wrth gwrs, am amser byr iawn yn unig y daeth y clogyn n么l i Gymru," meddai.
"Mae yna achos nawr dros fenthyca tymor hir neu hyd yn oed rhoi y clogyn i amgueddfa Wrecsam neu yr Wyddgrug, wedyn bydde pobl yn trysori y lle yn hytrach na gorfod teithio i Lundain yn y gobaith y bydde y clogyn ar gael i'w weld."
Yn 么l llefarydd ar ran yr Amgueddfa Brydeinig roedd y sefydliad yn gartref i stor茂au o bob cwr o'r byd, ac ers agor 263 o flynyddoedd yn 么l y bwriad oedd dweud stor茂au gwahanol ddiwylliannau.
"Mae chwe miliwn o bobl yn ymweld 芒'r amgueddfa bob blwyddyn ac mae'r clogyn aur ar gael i'w weld yn rhad ac am ddim.
"Mae'n un o atyniadau pwysicaf yr oriel Ewropeaidd a Dwyrain Canol, sy'n helpu ymwelwyr i ddeall yn well y berthynas gymhleth rhwng ymerodraethau, gwledydd a phobl.
"Mae'r clogyn wedi bod ar fenthyg yng Nghymru yn Wrecsam a Chaerdydd yn y deng mlynedd ddiwethaf ac wedi bod ar fenthyg yn rhyngwladol i Halle yn yr Almaen yn 2021.
"Ar hyn o bryd mae'n rhan o arddangosfa C么r y Cewri yn yr amgueddfa, sydd wedi cael canmoliaeth mawr."
'Un peth ynghanol miloedd'
Wrth ymateb i ddatganiad yr amgueddfa mae Andrew Green yn holi "faint o bobl o'r Wyddgrug er enghraifft sy'n gallu mynd i weld y clogyn yn Llundain?
"Fe fydde fe yn llawer mwy gweladwy yng Nghymru ac yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
"Mae hwn yn drysor anhygoel, a phan ddaeth e i Gymru roedd pobol yn rhyfeddu at pa mor ogoneddus yw e.
"Yn yr Amgueddfa yn Llundain mae e jyst un peth ynghanol cannoedd neu filoedd o bethe tebyg. Yn Wrecsam neu yn yr Wyddgrug fe fydde hwn yn sefyll mas fel rhywbeth hollol hollol unigryw."