Mwangi: Wedi ei drin fel sbwriel, gadawodd neges i gymdeithas
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd corff Logan Mwangi ei adael fel darn o sbwriel anghyfreithlon, heb fod ymhell o'r fan lle mae afonydd Ogwr a Llynfi'n cydlifo.
Ond aeth llif gwan Gorffennaf y llynedd ddim 芒'r dystiolaeth bwerus.
Os nad oedd y plentyn pum mlwydd oed wedi gallu lleisio'i ddioddefaint mewn bywyd, roedd ei gorff bach yn adrodd cyfrolau.
Roedd ganddo 56 o anafiadau allanol gweledol ond y rhai mewnol a'i laddodd.
Roedd ei afu wedi rhwygo, ei goluddyn wedi ei guro'n dyllau, gwaed yn cronni yn ei berfedd a'i ymennydd wedi chwyddo.
Anafiadau sy'n cael eu cysylltu 芒 damweiniau car difrifol fel arfer.
Ardal gymharol dlawd o Ben-y-bont yw'r ardal lle'i fagwyd ger cae chwarae Clwb Rygbi Tondu. Mae pobl yn mynd a dod yn gyson i barc Pandy i gicio p锚l, cerdded eu c诺n neu i gael awyr iach.
Ond fe gaiff yr ardal ei chofio mwyach am yr hyn ddigwyddodd yn nhywyllwch nos.
Drwy hap a damwain roedd golau diogelwch cymydog wedi goleuo pan ddaeth John Cole o rif 5 Llansantffraid Isaf am 02:43.
Roedd corff Logan dros ei ysgwydd a'r llanc 14 oed yn ei ddilyn.
Cafodd y cyfan ei recordio ar gamera diogelwch t欧 arall tua 50 metr i ffwrdd. Byddai'r lluniau yma'n allweddol i ymchwiliad yr heddlu ac yn asgwrn cefn i achos yr erlyniad.
Yn ystod yr achos fe ddaeth y rheithgor i ymweld 芒'r ardal. Seriwyd y lleoliadau ar eu cof mae'n si诺r.
Roedd yna dri lleoliad penodol - y fflat oedd yn gartre' i Logan, ei fam a'i lystad, Afon Ogwr gerllaw lle cafwyd hyd i'r corff, a darn o lwybr at goetir lle gollyngwyd ei ddillad nos.
Roedd hynny yn rhan o'r cynllwyn i gamarwain yr heddlu.
Am bod y fflat yn gymharol fach, bob yn dri aeth aelodau'r rheithgor i'r cartre'. Dilynodd y timau cyfreithiol wedyn.
Fe es innau i'r fflat wedyn ymhlith dyrnaid o gynrychiolwyr y wasg.
Er bod 'na gyfyngiadau o hyd ar yr hyn y mae modd i ni adrodd dyma i chi'r hyn a welais i.
Fflat un llawr yw rhif 5 - dwy 'stafell wely, 'stafell fyw, 'stafell ymolchi a chegin. Mae'n lawr gwaelod t欧 cyngor traddodiadol - yn fflat cyfyng, digon arferol ac roedd y teulu'n byw ar fudd-daliadau.
Roedd bocsys o drugareddau'r teulu ymhobman.
Ar y dde roedd y brif ystafell wely - ystafell Angharad Williamson a John Cole. Yno roedd gwely, teledu mawr ar y wal a theganau, gemau cyfrifiadur a dillad yma a thraw.
I'r chwith i'r coridor roedd yr ystafell fyw - eto'n llawn trugareddau'r teulu.
Yn y cefn roedd stafell, y 'stafell ymolchi, ac yna'r gegin sgw芒r. Ar wal y gegin - dyddiadur misol ac arno restr o brydau bwyd y teulu, bwrdd 芒 llythyron apwyntiadau meddygol, oergell a pheiriant golchi a chadair olwyn.
Drws nesa' yn y cefn roedd 'stafell wely Logan - 'stafell lle roedd y llenni'n gyson ar gau a larwm ar y ffenest i'r iard gefn.
Ystafell plentyn bach oedd hon, ac ynddi deganau a lamp gyda lluniau cymeriad cart诺n.
Yma mewn dwnjwn y treuliodd Logan ei 10 diwrnod olaf ar y ddaear.
Roedd wedi profi'n bositif am Covid, a gweddill y teulu'n mynnu ei fod yn cadw draw.
Gosodwyd gi芒t babi ar draws y drws, a gorfodwyd y bachgen bach i wisgo mwgwd a wynebu'r wal pan oedd yn cael ei fwydo.
Ac ar ddiwedd y dioddefaint hyn, cafodd ei guro'n ddi-drugaredd gan ei lystad, ei fam a chrwt 14 oed.
Roedd gweithwyr cymdeithasol wedi ymweld ond oherwydd Covid roeddent wedi gorfod aros ar garreg y drws yn enwedig yn ystod yr wythnos dyngedfennol olaf.
Fe ddigwyddodd y cyfan tu 么l i ddrysau cae毛dig rhif 5 Llansantffraid Isaf ar stad digon di-nod ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Na, aeth llif yr Ogwr ddim 芒'r dystiolaeth allweddol.
Gadawodd Logan neges i'n cymdeithas, a thrwy'r neges honno a dyfarniadau'r rheithgor, mae'n bosib bod 'na fymryn o gyfiawnder iddo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022