Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhaid rheoli ardaloedd gwarchodedig, yn 么l astudiaeth
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cyfrannu at yr astudiaeth fwyaf erioed o ddylanwad ardaloedd gwarchodedig ar fywyd gwyllt yn fyd eang.
Dangosodd yr astudiaeth nad oedd hi'n ddigonol i osod tir o'r neilltu, roedd rheoli safleoedd yn allweddol.
Fe graffodd y t卯m o wyddonwyr rhyngwladol ar 1,500 o safleoedd, mewn 68 o wledydd.
Disgrifio'r canlyniadau fel rhai "siomedig" mae'r Athro Julia Jones o Fangor, un o gyd-awduron y papur.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai cynllun rhwydweithiau natur yn "gwella cyflwr ein safleoedd gwarchodedig a'r cysylltiadau rhyngddynt".
"Fel gwyddonwyr ym myd cadwraeth fe fydden ni'n dwli clywed bod gwarchod ardaloedd o dir yn arwain at ganlyniadau gwych, gan wyrdroi'r colledion mewn rhywogaethau yn fyd eang," meddai'r Athro Jones.
"Ond mewn gwirionedd, beth wnaethon ni ddarganfod oedd bod y sefyllfa'n gymysg iawn."
Tra bod cnwd o ymchwil wedi dangos bod gwarchod ardaloedd yn gallu arwain at arafu datgoedwigo a cholli cynefin, mae wedi bod yn llai clir pa effaith mae wedi'i gael ar hybu bioamrywiaeth.
'Rheolaeth yn hanfodol'
Dewisodd yr ymchwilwyr ganolbwyntio ar adar d诺r - gan fod cymaint o ddata ar gael gan filoedd o wylwyr adar yn gwirfoddoli o'u hamser i gyfrannu at gynlluniau cofnodi cenedlaethol.
Cafodd safleoedd sy'n gartref i dros 27,000 o boblogaethau adar d诺r eu dadansoddi - gan gymharu'r sefyllfa cyn ac ar 么l i ardaloedd gael eu gwarchod, a'r sefyllfa y tu hwnt i'r ffiniau'r gwarchodfeydd.
Tra bod rhai safleoedd yn rhagori, nid oedd nifer i'w gweld yn cael fawr o effaith.
Daeth yr ymchwilwyr i'r casgliad bod rheoli ardaloedd yn benodol ar gyfer rhywogaethau gwahanol yn hanfodol o ran cynyddu eu niferoedd.
Heb y math yma o ymyrryd - allai gynnwys rheoli lefelau d诺r, argaeledd bwyd a lloches, neu nifer yr ysglyfaethwyr - doedd y tirweddau dynodedig yma ddim mor debygol o lwyddo.
'Llinellau ar fap ddim am helpu natur'
Gobaith yr ymchwilwyr yw y bydd eu casgliadau yn helpu llywio'r drafodaeth pan fydd arweinwyr byd yn cwrdd yn China yn yr hydref i gytuno ar weithredu pellach i daclo'r argyfwng natur.
Mae 'na alwad i warchod 30% o arwynebedd y Ddaear erbyn 2030, ond dweud bod angen targedau wedi'u selio ar reoli safleoedd mae awduron y papur.
"Fydd darlunio llinellau ar fap ar ei ben ei hun ddim yn helpu natur," meddai'r Athro Jones.
"Falle bod angen mwy o safleoedd arnom ni - ond yn bwysicach fyth ma' gwella ansawdd y rheiny sydd gyda ni yn barod."
Yng ngwarchodfa adar d诺r yr RSPB yng Nghasnewydd, dywedodd pennaeth polisi'r elusen yng Nghymru, Dr Sharon Thompson bod y gwaith ymchwil yn "cadarnhau yr hyn ry'n ni wedi bod yn ei ddweud ers tro".
"Os nad yw safleoedd yn cael eu rheoli'n gywir yna dydyn nhw ddim yn mynd i gyflawni eu potensial," meddai.
Dangosodd adroddiad diweddar nad oedd hanner safleoedd gwarchodedig Cymru yn cael eu monitro'n rheolaidd oherwydd diffyg cyllid, a lle bod data ar gael roedd 60% mewn cyflwr anffafriol.
Dywedodd Dr Thompson fod yr elusen am weld llawer mwy o fuddsoddiad gan lywodraethau'r DU er mwyn "sicrhau gwell rheoli a monitro", yn ogystal 芒 thargedau adfer natur.
"Ry'n ni'n byw drwy argyfwng hinsawdd a natur - allwn ni ddim eistedd yn 么l a llaesu dwylo," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai ei chynllun rhwydweithiau natur yn "gwella cyflwr ein safleoedd gwarchodedig a'r cysylltiadau rhyngddynt".
"Bydd y cynllun yn creu rhwydweithiau ecolegol cadarn er mwyn i'n cynefinoedd a bywyd gwyllt mwyaf bregus ffynnu."