大象传媒

Galw am edrych eto ar farwolaethau amheus Penfro

  • Cyhoeddwyd
gwylnos Penfro

Fe ddaeth rhyw 50 o bobl ynghyd yng nghapel Rhydwilym yn Sir Benfro nos Sul i gofio am frawd a chwaer gafodd eu darganfod yn farw yn eu cartref o dan amgylchiadau amheus ym mis Rhagfyr 1976.

Y gobaith yw pwyso am ymchwiliad newydd i'w marwolaethau.

Cafodd Griff a Martha Mary Thomas, oedd yn cael ei hadnabod yn lleol fel Pati, eu darganfod yn farw yn Ffynnon Samson, Llangolman, ddechrau Rhagfyr 1976.

Penderfynodd rheithgor mewn cwest ym mis Chwefror 1977 fod Mr Thomas, 73, wedi llofruddio ei chwaer, 70, yn dilyn ffrae cyn rhoi ei hun ar d芒n. Roedd Pati Thomas wedi dioddef anafiadau difrifol i'w phen.

Erbyn hyn, mae papur bro Clebran wedi dechrau ymgyrch yn galw ar Heddlu Dyfed Powys i ail-edrych ar yr achos ac mae yna alw hefyd am ddiddymu rheithfarn y cwest.

Yn 么l pobl oedd yn adnabod y ddau, does yna ddim posibilrwydd y gallai Griff fod wedi lladd ei chwaer mewn ymosodiad mor dreisgar.

Yn ystod gwylnos fer yn y capel hynafol ar lannau'r Cleddau Ddu nos Sul fe gafodd dwy gannwyll eu cynnau er cof am y brawd a'r chwaer oedd yn aelodau selog yn y capel.

Fe chwaraewyd neges sain yn ystod yr oedfa gan y Parchedig Peter Thomas, cyn-lywydd y Bedyddwyr.

Fe oedd y gweinidog lleol yn Rhydwilym ar y pryd ac yn gyfrifol am gladdu Griff a Pati yn dilyn eu marwolaethau amheus.

Dywedodd bod y digwyddiad ym mis Rhagfyr 1976 wedi creu "dirgelwch" a chodi cwestiynau "na chafwyd atebion iddynt" a bod ganddo atgofion melys o hyd am y brawd a'r chwarae 芒'u "hynaswedd, eu hymroddiad, a'u bywyd syml".

'Hedd yr ardal wedi ei ddryllio'

Wrth ddarllen gweddi yn yr wylnos, dywedodd Emyr Phillips bod "hedd yr ardal wedi ei ddryllio" gan farwolaethau'r ddau ac fe apeliodd am gymorth Duw i "gael gafael ar y gwir".

Yn ystod yr oedfa, fe chwaraewyd neges hefyd gan yr Aelod o'r Senedd lleol, Paul Davies.

Dywedodd ei fod yn cefnogi ymgyrch y gymuned leol a bod marwolaethau Ffynnon Samson wedi bod yn "gwmwl du dros y gymuned".

Yn 么l Mr Davies, doedd "dim rhaid derbyn y dyfarniadau" yn sgil datblygiadau mewn technoleg fforensig a dywedodd bod yr achos yn haeddu "cael ei ail-archwilio".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd yr wylnos ei chynnal yng nghapel Rhydwilym ym mhlwyf Llandysilio

Yn dilyn yr wylnos, fe aeth y criw oedd wedi ymgynnull at fynwent Rhydwilym, ble mae Griff a Martha Mary Thomas wedi eu claddu yn yr un bedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Rydym yn parhau i adnabod a chadarnhau pa ddeunydd sydd wedi cael ei gadw.

"Bydd y teulu yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau."

Pynciau cysylltiedig