大象传媒

Betsi Cadwaladr 'heb wneud gwelliannau' medd teuluoedd

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r mwyaf yng Nghymru

Mae teuluoedd cleifion a gafodd eu trin yn "annerbyniol ac anfaddeuol" mewn ysbyty yn y gogledd bron i ddegawd yn 么l yn dweud ei bod hi'n ymddangos nad yw'r bwrdd iechyd "wedi gwneud unrhyw welliannau o ran diwylliant".

Daw'r feirniadaeth wedi iddi ddod i'r amlwg wythnos ddiwethaf i aelod o staff Betsi Cadwaladr gael eu harestio ar amheuaeth o gamddefnyddio awdurdod a cham-drin cleifion.

Yr honiad yw i'r aelod staff rannu fideo ar WhatsApp o glaf yn gorwedd yn ei faw ei hun.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrth Newyddion S4C eu bod yn "ymwybodol iawn o, ac yn cydymdeimlo gyda, barn teuluoedd y rheiny oedd yn rhan o adroddiadau Tawel Fan", ond maen nhw'n mynnu "bod yna gamau ymlaen wedi bod".

'Rhybudd olaf'

Wedi pum mlynedd o dan fesurau arbennig, cododd Llywodraeth Cymru y mesurau rheiny yn Nhachwedd 2020.

Ond wedi i ragor o adroddiadau dynnu sylw at ffaeleddau eraill, ym mis Chwefror rhoddodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, rybudd olaf, a thri mis, i'r bwrdd wneud gwelliannau.

Pe na bai hynny'n digwydd, dywedodd y byddai'n ystyried "mesurau pellach".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd adroddiad Donna Ockenden yn dweud bod rhai cleifion wedi'u gadael i orwedd yn noeth ar y llawr yn ward Tawel Fan

Cafodd ward dementia Tawel Fan, yn ysbyty Glan Clwyd, ei chau yn 2013 wedi pryderon am safon y gofal yno.

Fe wnaeth adroddiad cychwynnol ddarganfod bod "cam-drin sefydliadol" wedi bod yno.

Ymatebodd y bwrdd iechyd drwy ddweud bod y gofal yn "annerbyniol ac anfaddeuol".

Dywedodd adroddiad annibynnol diweddarach nad oedd cam-drin sefydliadol yn Nhawel Fan, ond bod methiannau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd John Martindale yn glaf ar ward Tawel Fan yn 2013

Un fu'n glaf yno yn 2013 oedd John Martindale.

Dywedodd ei fab-yng-nghyfraith, John Stewart, wrth raglen Newyddion S4C: "Cafodd ei drin fel anifail. A bu farw fel anifail. Roedd e'n ofnadwy."

Mae Mr Stewart wedi gweithio gyda'r bwrdd iechyd ers hynny i geisio sicrhau bod gwersi sgandal Tawel Fan yn cael eu dysgu.

Wrth ymateb i'r newyddion am arestio aelod o staff nyrsio y bwrdd iechyd, dywedodd: "Roedd rhywun yn gobeithio bod pethau yn newid."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd John Stewart bod ei dad-yng-nghyfraith wedi cael "ei drin fel anifail"

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl bod rhai pobl wedi trio yn galed iawn i newid pethau, ond mae'r diwylliant yn wenwynig yn Betsi.

"Rwy'n credu allwch chi briodoli fe i gamgymeriadau sydd wedi eu gwneud yn y gorffennol ac sydd heb gael eu delio 芒 nhw yn iawn."

'Ddim wedi gwneud unrhyw welliant'

Ategu sylwadau Mr Stewart wnaeth mab claf arall, a fu farw ar ward Tawel Fan.

Bu farw Joyce Dickaty yno ym mis Medi 2012 yn 76 oed.

Ffynhonnell y llun, Christine Henderson
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Joyce Dickaty ar ward Tawel Fan ym mis Medi 2012

Dywedodd ei mab Phill wrth Newyddion S4C: "Dyw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddim i weld wedi gwneud unrhyw welliant real o ran diwylliant ers argymhellion adroddiadau Ockenden/HASCAS.

"Roedd hi'n gysur i ni na fyddai eraill yn dioddef yn yr un modd 芒 ni gan fod gwersi wedi eu dysgu. Ond dyw hi ddim i weld bod hynny wedi digwydd.

"Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dal i fethu'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Dyw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddim i weld wedi gwneud unrhyw welliant real," meddai Phill Dickaty

Yn 么l y corff sy'n gwarchod buddiannau cleifion yn y gogledd, y cyngor iechyd cymuned, mae gofid nad yw'r bwrdd iechyd yn gweithredu gwelliannau.

Dywedodd eu prif swyddog, Geoff Ryall-Harvey: "Mae sawl adroddiad dros y naw mlynedd diwethaf wedi tynnu sylw at ofal gwael ac argymell gwelliannau.

"Ry'n ni'n gweld cynlluniau gweithredu ond prin iawn yw'r gweithredu effeithiol."

Mae'r cyngor iechyd cymuned yn cydnabod eu bod nhw "wedi calonogi i'r bwrdd iechyd ddatgelu'r sefyllfa [am aelod o staff yn cael ei arestio] yn brydlon".

'Rhai gweithredoedd eto i gael eu gwneud'

Mewn datganiad yn ymateb i'r pryderon dywedodd Gill Harris, dirprwy brif weithredwr y bwrdd iechyd: "Mae mwyafrif y gweithredoedd o'r adroddiadau yma [yn y gorffennol] wedi eu gwneud.

"Gallwn weld hynny o'r gwelliannau sydd wedi bod. Er hynny, rydyn ni'n cydnabod bod rhai gweithredoedd eto i gael eu gwneud."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Gill Harris fod y bwrdd iechyd "wedi ymrwymo'n llwyr i amddiffyn pob claf sydd dan ein gofal"

Ychwanegodd: "Mae lles ein cleifion o fewn i ofal yr henoed o bwysigrwydd mawr i mi ac mae staff, er eu bod nhw dan bwysau, yn parhau i roi eu gorau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol yma i'n cymunedau.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi cryfhau ein tryloywder ac atebolrwydd ac rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i amddiffyn pob claf sydd dan ein gofal.

"Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am i ofal i'r henoed yng ngogledd Cymru fod yn esiampl o'r arfer gorau. Dyna fydd ein nod parhaol.

"Rydyn ni'n grediniol fod gennym brosesau rheolaethol cryf mewn lle i gefnogi staff wrth iddyn nhw roi'r gwasanaethau rheiny - ac rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid yng Nghyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru i fonitro ein cyrhaeddiad."