Cymuned i ddathlu carreg filltir clwb p锚l-droed o Wynedd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl torf sylweddol yn un o bentrefi Gwynedd brynhawn Sadwrn wrth i glwb p锚l-droed cymunedol ddathlu canrif ers ei sefydlu.
Chwaraeodd clwb Mountain Rangers ei g锚m gyntaf yn 1920, ac mae'n parhau i fod yn ganolbwynt i gymuned Rhosgadfan a'r cylch.
Ond er y bu'n rhaid gohirio'r dathliadau canmlwyddiant yn sgil y pandemig, mae disgwyl tyrfa fawr a sawl wyneb cyfarwydd ar gyfer ymweliad t卯m o gyn-chwaraewyr CPD Tref Caernarfon.
Mae'n debyg fod Rhosgadfan yn fwyaf adnabyddus fel man geni'r awdur Kate Roberts, gyda'i chartref, Cae'r Gors, dafliad carreg o'r clwb.
Bydd gwylwyr craff o'r rhaglen gomedi C'mon Midff卯ld hefyd yn ei adnabod, wedi i faes enwog y clwb wneud ymddangosiad yn y gyfres.
Ond ymysg yr enwogion fydd yn chwarae yno brynhawn Sadwrn fydd cyn-chwaraewr Torquay a th卯m dan-21 Cymru, Nathan Craig, a ph锚l-droediwr sydd yr un mor adnabyddus am ei dalentau cerddorol, Yws Gwynedd.
Gyda th卯m Caernarfon yn cael ei reoli gan Sean Eardley, bydd chwaraewyr eraill o gyfnod y clwb yn y Cymru Premier hefyd yn gwneud ymddangosiad, gan gynnwys Gareth Edwards, Rhys Roberts, Jamie Breese a Danny Brookwell.
Oddi ar y cae, bydd Dafydd Iwan hefyd yn canu 'Yma o Hyd' cyn y g锚m, gyda chymorth plant o gymuned Rhosgadfan a Rhostryfan.
Atgyfodi'r clwb
Ond tra mai dathliad bydd y g锚m, mae hefyd yn gyfle i nodi ymdrech y gymuned wrth atgyfodi'r clwb yn dilyn sawl blwyddyn heb gicio p锚l o gwbl.
Roedd y clwb wedi blasu llwyddiant yn y gorffennol wrth ennill Cwpan Alves yn 1980 ac yna Cynghrair Gwynedd yn ystod y 1990au.
Ond wedi i Mountain Rangers dynnu allan o Gynghrair Gwynedd yn 2012, segur oedd Cae Gors tan i bwyllgor o bobl leol benderfynu atgyfodi'r clwb.
Wedi sefydlu academi yn wreiddiol, a th卯m merched am gyfnod, ail gychwynnwyd y t卯m dynion yn 2019, sydd bellach yn chwarae ym mhumed haen y pyramid Cymreig.
Dywedodd cadeirydd presennol y clwb, Dylan Pritchard, wrth 大象传媒 Cymru Fyw: "Mae'n deg dweud nad ydy rhedeg clwb ar y lefel yma yn hawdd, ond 'da ni'n falch iawn i hefyd gael tri th卯m ieuenctid o dan 14, 10 ac wyth oed.
"Lle bach ydy Rhosgadfan, does 'na ond rhyw 300 o dai yma, sydd reit ar ochr mynydd felly does 'na ddim byd wedyn!
"Ond 'da ni'n lwcus fod o'n gymuned mor agos, ac mae 'na lot o bobl yn falch fod y clwb dal yma."
Gobeithio am achlysur
Dywedodd rheolwr y clwb, Alex Philp: "Mae dydd Sadwrn am fod yn anferth i ni fel clwb, o'ddwn i'n arfer bod yn kit man gyda Caernarfon Town felly dwi'n 'nabod yr hogia i gyd.
"Yn ffodus mae 'na ddipyn o enwau mawr yn lleol am ddod, felly 'da ni'n gobeithio fydd hi'n achlysur gr锚t.
"Mae'n hwb nid yn unig i'r clwb ond i Rosgadfan hefyd, mae'n helpu i roi'r pentra' ar y map."
Ychwanegodd y rheolwr: "Mae 'na glwb cymdeithasol wedi'i glymu i'r clwb p锚l-droed felly mae lot o'r gymuned yn mynd yno, ac wrth gwrs mae 'na dri t卯m ieuenctid sy'n cynnwys lot o'r plant lleol.
"Efo cychwyn y clwb hogia lleol yn gweithio yn y chwareli oedd yn troi allan bob wythnos, mae 'na hanes mawr iawn i'r clwb ac mae'n beth braf fod ni o'r diwedd yn gallu dathlu hwnnw."
Mwynhau ydy'r peth pwysicaf
Yn dilyn buddugoliaeth ganol wythnos yn eu g锚m gartref olaf o'r tymor, dywedodd Alex fod y tymor wedi bod yn un "fyny ac i lawr" o ran canlyniadau, er iddynt orffen yn ail yng Nghynghrair M么n yn nhymor 2019/20, a'i thorrwyd yn fyr oherwydd Covid.
Ond ychwanegodd fod y dyfodol yn edrych yn ddisglair gyda sawl chwaraewr ifanc wedi ymuno, ar 么l cynnal sesiynau agored i lenwi'r garfan.
"Mae 'na lot o hogia yn gadael ysgol ac os nad ydyn nhw'n cael eu cymryd i fewn gan d卯m oedolion neu academi, mae nhw just yn stopio chwarae.
"Oddwn i'n gweld o'n gymaint o bechod, felly y bwriad ydy cynnal ail d卯m a gobeithio creu mwy o gyfleoedd a chadw nhw o fewn y g锚m, gan hefyd wneud yn si诺r fod eu hyfforddiant yn parhau.
"Ar ein lefel ni o b锚l-droed, y mwynhad ydy'r peth pwysicaf ar ddiwedd y dydd."
Cynhelir y g锚m rhwng CPD Mountain Rangers a S锚r Tref Caernarfon brynhawn Sadwrn, 30 Ebrill gyda'r gic gyntaf am 15:00. Mynediad 拢3 oedolion, 拢2 henoed a 拢1 i blant.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2022