Llacio rheolau Covid mewn ysgolion o ddydd Llun, 9 Mai
- Cyhoeddwyd
Ni fydd rheidrwydd i wisgo mygydau mewn ysgolion yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen.
Yn 么l y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bydd y canllawiau i ysgolion yn "fwy cyson 芒 gweddill y gymdeithas".
Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i ddisgyblion a staff wisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol.
Ond o 9 Mai bydd mesurau Covid mewn ysgolion yn dilyn yr un drefn 芒 busnesau a sefydliadau eraill.
Ychwanegodd Mr Miles y bydd ysgolion a sefydliadau addysgol eraill yn cael cyngor i weithio gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod y mesurau yn parhau yn "addas a chymesur".
Bydd rhestr wirio hefyd yn cael ei darparu i ysgolion.
Mae'r gweinidog addysg wedi dweud hefyd gallai rhieni orfod talu dirwyon os yw eu plant yn absennol oherwydd triwantiaeth - yn ystod cyfnod Covid roedd yna anogaeth i gynghorau beidio dirwyo.
Ers mis Medi 2021 mae ysgolion wedi cyflwyno mesurau i atal lledaeniad Covid-19 - yn unol ag amgylchiadau lleol.
Roedd y mesurau hynny yn seiliedig ar fframwaith i ysgolion - ond bellach y cyngor fydd na fydd rhaid defnyddio'r fframwaith.
Newid o bandemig i endemig
Dywedodd Mr Miles: "Yn unol 芒'r canllawiau iechyd cyhoeddus ehangach a gyhoeddwyd fel rhan o'r adolygiad tair wythnos diwethaf, rydym wedi ysgrifennu at benaethiaid ysgolion heddiw i dynnu sylw at y newidiadau sydd ar ddod yn ein cyngor i ysgolion, sy'n adlewyrchu'r newid o bandemig i endemig.
"Drwy hyn, gwneir yn si诺r bod canllawiau i ysgolion yn fwy cyson 芒 gweddill y gymdeithas.
"Mae pawb yn gwybod nad yw Covid-19 wedi diflannu.
"Mae'n hollbwysig o hyd ein bod yn lleihau lledaeniad y feirws lle y bo'n bosibl - gan gynnwys, er enghraifft, dilyn canllawiau o ran hunan-ynysu, a sicrhau bod lleoliadau addysg yn parhau i gynnal asesiadau risg cadarn."
Mae Ysgol Gynradd Glan-yr-Afon yn Llanrhymni yng Nghaerdydd wedi llacio cyfyngiadau ar 么l gwyliau'r Pasg.
Am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd mae dosbarthiadau gwahanol yn cael gwasanaeth ar y cyd yn y neuadd a mwy o gymysgu bellach ar yr iard.
'Gyda'n gilydd o'r diwedd'
"Roedd e'n gr锚t i weld y plant gyda'i gilydd yn y neuadd yn gwrando, yn canu a chymuned yr ysgol gyda'i gilydd o'r diwedd," meddai'r pennaeth Rhian Lundrigan.
Mae rhai cyfyngiadau ar gymysgu o hyd ond mae'r swigod llawer iawn yn fwy a thripiau preswyl a phrydau twym yn y ffreutur wedi ailddechrau.
"Ni 'n么l fwy nawr yn ysgol normal," meddai.
"Y gwahaniaeth mwyaf fi'n credu mae'r plant wedi dweud yw bod y staff ddim yn gwisgo masgs rhagor.
"Mae'r staff yn gallu gwenu a siarad yn fwy clir - roedd e'n galed i rai o'r plant ddeall ni gyda'r masgs arno."
Mae 'na gynlluniau am 'prom' i flwyddyn chwech a chroeso i rieni i'r mabolgampau eleni.
Yn 么l Ms Lundrigan mae'n obeithiol am y cyfnod i ddod, ond yn dweud y byddai efallai angen ystyried ailgyflwyno mesurau pe bai achosion Covid yn cynyddu eto o fewn yr ysgol neu'r gymuned.
Dirwyon
Dywedodd Mr Miles, y gallai rhieni gael dirwyon os nad yw eu plant yn mynd i'r ysgol a hynny er mwyn mynd i'r afael ag absenoldeb.
"Rwy'n bryderus iawn" fod disgyblion mewn rhai blynyddoedd yw fwy tebygol nag eraill i fod yn absennol o'r ysgol, meddai, ond ychwanegodd mai rhoi dirwy ddylai fod "y cam diwethaf".
Mae canran absenoldeb ysgolion Cymru wedi dyblu ers 2019.
Yn y flwyddyn academaidd 2018-19 roedd absenoldeb plant ysgolion cynradd yng Nghymru yn 5.4%, ac yn 6.2% mewn ysgolion uwchradd.
Mae'r ffigyrau diweddaraf hyd 1 Ebrill 2022 yn dangos bod y canrannau yn 11.9% ar gyfer ysgolion cynradd a 15.4% ar gyfer ysgolion uwchradd.
"Ry'n ni'n gofyn i awdurdodau lleol ddychwelyd i'r drefn a fodolai cyn Covid ar gyfer rhoi dirwyon," ychwanegodd Mr Miles.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2022