大象传媒

Oriel: Cerdded 870 milltir o gwmpas Llwybr Arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
Lluniau o Catrin ar ei thaithFfynhonnell y llun, Catrin Davies

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu degawd ers ei agor ar Mai 5.

Mae'r llwybr ar hyd arfordir Cymru yn ymestyn am bellter o 870 o filltiroedd - dipyn o her i gerddwyr ond un wnaeth y ffisiotherapydd Catrin Davies ei gwblhau dros gyfnod o 10 wythnos yn 2021, gan gasglu miloedd o bunnoedd i elusen ym Mecsico.

Fe roddodd Catrin Davies babell ar ei chefn fis Mehefin 2021 a cherdded bron bob dydd am y 79 diwrnod canlynol.

Dyma ei thaith:

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

Oriel: Cerdded 870 milltir o gwmpas Llwybr Arfordir Cymru

"Diwrnod 1, Caer - a'r diwrnod cyntaf o fy sialens 'Catrin yn crwydro Cymru'.

"Cerddais 12.5 milltir, neu 31,000 o gamau, ar y diwrnod yma... a chael un blister.

"Penderfynais gerdded 870 milltir o amgylch llwybr arfordir Cymru i godi arian at elusen Therapies Unite. Rwy'n gwirfoddoli i'r elusen fel ffisiotherapydd sy'n gweithio gyda phobl a phlant gydag anableddau gwahanol mewn llefydd anghysbell yn Mecsico."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Diwrnod dau - a chyrraedd y cerflun o droed ger gorsaf dr锚n Fflint."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Taith hir a syml ar hyd llwybr beics oedd y rhan fwyaf o'r daith am y dyddiau cyntaf, ar hyd arfordir gogledd Cymru. Golygfeydd o garafanau am y rhan gyntaf, yna gweld Castell Gwrych a chyrraedd Bae Colwyn, cyn mynd ymlaen i Landudno."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Ynys M么n oedd fy hoff ran o'r llwybr - clogwyni serth a milltiroedd o draethau hyfryd, diarffordd. Dyma fi yn cael seibiant wrth nofio yn y m么r."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Roeddwn i'n cerdded gyda bag 15kg ar fy nghefn - yn cynnwys pabell, sach gysgu, st么f a bwyd. Roedd angen bod yn gwbl gynaliadwy.

"Roedd yn rhaid i mi wersylla yn wyllt ger clogwyn Porth Llechog ar Ynys M么n - doedd dim lle i aros mewn maes pebyll yn yr ardal!"

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Roedd gen i gwmni ffrindie a theulu am rannau o'r daith.

"Wnaeth Mam ac Anti Margaret gerdded gyda mi am 30 diwrnod, a Bryn, fy nghi, am y rhan fwyaf o'r llwybr. Dyma fe'n mwynhau Ynys Llanddwyn!"

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Diwrnod 24... glaw a diwrnod anodd wrth gael glychfa tra'n cerdded wrth ymyl Nant Gwrtheyrn. Diolch byth roedd fy ffrind Catrin gyda mi!"

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Roedd y diwrnod wedyn yn braf, ond yn anffodus roedd tafarn y T欧 Coch, Porthdinllaen, Pen Ll欧n, yn rhy brysur i cael hoe a diod!"

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Saib uwchben Aberdyfi. Roedd y rhan yma o'r daith drwy Sir Feirionnydd yn cynnwys traethau hir yn ardal Harlech a Tywyn a bryniau Aberdyfi a Rhoslefain.

"Er nad oedd y llwybr yn glynu at yr arfordir o hyd, roedd yn braf cael newid tirwedd a gweld coedwigoedd, gwyrddni ac afonydd y Ddyfi a'r Fawddach."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"'Cicio'r bar' yn Aberystwyth gyda fy ffrind Lisa."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Roedd digon o gerdded i fyny ac i lawr yng Ngheredigion gyda'r llwybr yn glynu wrth y clogwyni - oedd yn anodd, ond roedd yn braf cael stop mewn caffis ym mhentrefi Llangrannog, Mwnt ac Aberporth.

"Fel un o Gaerfyrddin, wy'n gyfarwydd 芒'r ardal yma a wnes i wir fwynhau cwmni ffrindiau a theulu - a hyd yn oed gweld dolffiniaid yn harbwr Cei Newydd."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Blodau'r haul yn Sir Benfro."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Gorsaf b诺er ger Aberdaugleddau.

"Roedd nifer o olygfeydd diwydiannol ar y rhan yma o'r daith, oedd yn ddifyr ar 么l wythnosau o weld arfordir a chlogwyni."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"'Bedd Dobby', o nofelau Harry Potter, yn Freshwater West."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Sue y ci yn mwynhau'r olygfa ar Benrhyn G诺yr."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Croesi'r cerrig camu tuag at y castell yn Aberogwr."

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Profiad od oedd cerdded - yn fy sgidiau cerdded yn lle fy sodlau uchel - drwy fywyd dinesig Caerdydd. Ar 么l deufis o gerdded ar hyd arfordir tawel a thrwy bentrefi gwledig roedd yn braf gweld pobl... a siopau coffi da!"

Ffynhonnell y llun, Catrin Davies

"Diwrnod 79 - y diwrnod olaf a chyrraedd Cas Gwent, 870 milltir yn ddiweddarach.

"Cwtch mawr ar y llinell derfyn gan fy mam a fy chwaer Sara, y ddwy wedi cyd-gerdded gyda mi ar hyd rhannau o'r daith.

"Roedd fy nghoesau yn drwm, fy nghorff wedi blino'n l芒n, a fy nhraed yn brifo - ond ro'n i mor gyffrous ac yn ddiolchgar i bawb wnaeth fy nghefnogi ar hyd y ffordd."

Hefyd o ddiddordeb: