Angen buddugoliaeth i barhau â breuddwyd Wrecsam

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Sgoriodd Paul Mullin ddwywaith i guro Stockport yn rownd gyn-derfynol Tlws yr FA

Bydd Wrecsam yn gobeithio cadw eu gobeithion prin o sicrhau dyrchafiad awtomatig i Ail Adran Cynghrair Pêl-droed Lloegr gyda buddugoliaeth yn erbyn Stockport ar y Cae Ras ddydd Sul.

Mae'r Dreigiau dri phwynt y tu ôl i Stockport ar frig yr adran, gyda'r tîm o Loegr wedi chwarae un gêm yn llai.

Dim ond un tîm sy'n cael dyrchafiad awtomatig o'r Cynghrair Cenedlaethol, gyda'r un safle arall yn ddibynnol ar ennill y gemau ail gyfle.

Felly os caiff Stockport fuddugoliaeth, byddai'n rhaid i Wrecsam ddibynnu ar lwybr y gemau ail-gyfle.

Dyw Wrecsam heb chwarae ym mhrif adrannau cynghrair pêl-droed Lloegr ers 2008.

Ond mae eu perchnogion newydd, y sêr o Hollywood Ryan Reynolds and Rob McElhenney, wedi buddsoddi'n hael yn y clwb gan weld llwyddiant ar y cae y tymor hwn.

Bydd dau o'r buddsoddiadau hynny, yr ymosodwyr Paul Mullin ac Ollie Palmer, yn gobeithio serennu ddydd Sul, gyda'r holl docynnau wedi eu gwerthu.

Mae hynny'n golygu torf arall o dros 9,000 i'r cochion ar y Cae Ras.

I osgoi neges Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys

Diwedd neges Twitter

Bum wythnos yn ôl, dwy gôl Mullin sicrhaodd buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Stockport yn Nhlws yr FA, gan sicrhau ymddangosiad Wembley yn erbyn Bromley ddiwedd Mai.

O ran anafiadau diweddar dywedodd y rheolwr Phil Parkinson fod yr ymosodwr Jake Hyde, a'r amddiffynwyr Bryce Hosannah a Callum McFadzean yn holliach ac yn rhan o'r garfan ar gyfer Stockport.

Fe fydd gêm olaf y tymor i Wrecsam ddydd Sul 15 Mai yn golygu taith i Dagenham and Redbridge.

Y gobaith yw y bydd y gêm honno yn parhau o bwys ar ôl ymweliad Stockport.