大象传媒

Ymgyrch i godi arian i drwsio cloc unigryw Gelli Aur

  • Cyhoeddwyd
Gelli Aur
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cloc Gelli Aur yn gwbl unigryw

Mae t卯m o arbenigwyr sy'n gweithio ar un o glociau enwocaf y byd, Big Ben yn Llundain, wedi eu galw i helpu i adfer hen gloc 200 oed mewn plasty yng ngorllewin Cymru.

Y gred yw bod y cloc, ar safle plasty Gelli Aur yn Sir G芒r, yr unig un o'i fath ym Mhrydain ac mae ymgyrch wedi dechrau i godi 拢45,000 ar gyfer ei adnewyddu.

Y gobaith yw anfon y cloc at The Cumbria Clock Company, sy'n atgyweirio Big Ben ar hyn o bryd, gan ei bod yn waith mor gymhleth.

Rhoi'r amser i bobl leol

O do'r t欧 crand mae Jemma Shields, sy'n gweithio yng Ngelli Aur, yn canu clychau'r hen gloc i ddangos sut roedden nhw'n arfer canu bob 15 munud er mwyn helpu pobl Dyffryn Tywi i wybod yn union faint o'r gloch oedd hi.

"Roedd pawb o amgylch y dref yn arfer setio eu clociau nhw o'r cloc yma achos oedd e'n canu bob awr, bob hanner awr a chwarter awr," meddai.

"Roedd pobol yn gallu clywed (y clychau) mor bell 芒 Chaerfyrddin. Roedd e'n rhywbeth pwysig iawn i'r ardal."

Ond gyda'i glychau a'i fysedd yn fud ers tua 60 o flynyddoedd mae 'na ymgyrch i gael y cloc hwn n么l yn tician eto.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd hi'n bosib clywed s诺n y cloc yng Nghaerfyrddin, medd Jemma Shields, sy'n gweithio yng Ngelli Aur

"Dyma'r unig gloc sydd 芒 thri wyneb arno fe a thair cloch. Doedden i ddim yn gwybod pwysigrwydd hynny i ddechrau ond fe gawson ni wybod mai dyma'r unig gloc sydd [ar 么l] yn ei ffurf wreiddiol," ychwanegodd Ms Shields.

Mae galw am waith arbenigwyr felly ac yn benodol, y Cumbria Clock Company, sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar adfer Big Ben yn Llundain.

"Mae'n fwy o waith cadwraeth i fod yn onest. Mae'n gloc pwysig," meddai Keith Scobie-Youngs o'r cwmni.

"Mae'n gloc cywir a manwl pan fyddwn ni'n cael e i weithio, a hynny'n fuan gobeithio. Fe fydd yn ennyn llawer o ddiddordeb ymhlith clocwyr ledled Prydain."

Mae hanes blaenorol rhwng Cymru a Big Ben. Y gred yw bod y 'Ben' wedi'i enwi ar 么l y peiriannydd Benjamin Hall, Barwn Cyntaf Llanofer a fu'n Aelod Seneddol ar fwrdeistrefi Sir Fynwy rhwng 1832 ac 1837.

Plasty Gelli Aur

"Mae hen hanes i blas Gelli Aur. Hwn oedd cartref teulu'r Vaughaniaid," meddai'r hanesydd Dr Elin Jones.

"Yn 1804 daeth y stad yn eiddo i Iarll Cawdor (o'r Alban) trwy ewyllys John Vaughan. Chwalwyd y plas a adeiladwyd yn 1754 wedi t芒n.

"Adeiladwyd y plas presennol rhwng 1825 ac 1830, rhyw 700 medr o safle'r plas gwreiddiol, ac roedd t诺r y cloc yn un o'r adeiladau olaf a godwyd.

"Teg yw dweud y byddai'r cloc hwnnw wedi rheoli bywyd gweision y plas, ac mae'n adlewyrchu pwyslais y 19eg ganrif ar gadw amser cywir, yn dilyn datblygiad y rheilffyrdd a chynnydd diwydiant."

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n safle i filwyr Americanaidd cyn troi'n Goleg Amaethyddol hyd at 2003.

Yn fwy diweddar, mae wedi cael ei ddefnyddio fel set ffilmio ar gyfer sawl cynhyrchiad teledu a ffilm gan gynnwys y ddrama ryfel, Six Minutes to Midnight, gyda Judi Dench.

Erbyn hyn, mae angen tipyn o waith adnewyddu ar y t欧 ac mae yna gynllun i'w droi yn ganolfan gelfyddydol.

Pynciau cysylltiedig