大象传媒

Y Cofis yn ennill ffeinal gemau ailgyfle Cymru Premier

  • Cyhoeddwyd
Caernarfon yn erbyn Y FflintFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Caernarfon ym mhedwaredd safle'r tabl ar ddiwedd y tymor a'r Fflint yn bumed

Fe rwydodd Laurie Bell ym munud olaf amser ychwanegol rownd derfynol gemau ail gyfle'r Cymru Premier i sicrhau buddugoliaeth o ddwy g么l i un dros Y Fflint a bachu lle yng Nghwpan Her yr Alban.

Bydd y t卯m oedd 芒'r fantais o gael chwarae ar eu maes eu hunain - yr Oval - yn ymuno yn y gystadleuaeth 芒'r pencampwyr Cymreig, y Seintiau Newydd.

Wedi 90 munud di-sg么r, aeth Caernarfon ar y blaen wedi i Daniel Gossett (98) ergydio'n isel o ymyl y cwrt chwech i gornel y rhwyd.

Chwe munud barodd y fantais wedi i Ben Nash unioni'r sg么r i'r Fflint.

Roedd Dion Donohue yn meddwl ei fod wedi ennill y g锚m i'r t卯m cartref pan groesodd y b锚l y llinell ond doedd hi ddim yn g么l oherwydd achos o gamsefyll.

Ond cefnogwyr y t卯m cartref sy'n dathlu wedi peniad dramatig Bell wrth i'r g锚m dynnu i'w therfyn, gan olygu bod Caernarfon wedi mynd gam ymhellach na'r llynedd pan gawson nhw eu curo 5-3 gan Y Drenewydd yn y g锚m gyfatebol.