Ceredigion: 'Gweld os allwn gynyddu premiwm ail gartrefi'
- Cyhoeddwyd
O Rydargaeau, Sir Gaerfyrddin, mae Bryan Davies, 51 oed wedi ymgartrefu yn Synod Inn, Ceredigion ers dros 20 mlynedd.
Yn amaethu ar fferm Synod Uchaf gyda'i wraig Anwen, bellach mae'n paratoi i arwain Cyngor Sir Ceredigion trwy gyfnod sy'n llawn heriau.
Mae llawer o'r heriau, meddai wrth Newyddion S4C, y tu hwnt i bob rheolaeth: "Y rhyfel yn Wcr谩in, costau byw yn cynyddu, prisiau tanwydd.
"Ni'n awdurdod gwledig fan hyn, mae'r pwysau ychwanegol sydd ar ffermydd o ran gwrtaith a thanwydd yn ddifrifol."
Am y tro cyntaf ers sefydlu Sir Ceredigion, mae gan un blaid fwyafrif, wedi i Blaid Cymru ennill 20 sedd.
Ond mae Bryan Davies yn awyddus i gynnwys yr holl bleidiau fel rhan o'i gynlluniau a sicrhau tryloywder wrth edrych i'r dyfodol a chyflawni rhai o'i flaenoriaethau, yr economi yn eu plith.
"Mae'r economi mor bwysig," meddai.
"Yr economi wledig cyn bwysiced 芒'r economi drefol. Ac wrth gael yr economi yna'n iawn, y gobaith yw ein bod ni'n gallu denu'n pobl ifanc ni n么l i'r ardal a hefyd, eu cadw nhw yn yr ardal."
Premiwm ail gartrefi
Ond er mwyn cyflawni hynny, mae'r cynghorydd yn ymwybodol o'r angen i fynd i'r afael 芒'r argyfwng ail gartrefi.
"Eisoes mae'r cyngor sir yn codi 25% o bremiwm ar dreth y cyngor yn barod.
"Mae hwnna'n rhywbeth y'n ni'n mynd i ail edrych arno er mwyn gweld os allwn ni gynyddu hwnnw.
"Ond yn sgil hynny, mae'n rhaid i ni gau'r loop hole lle mae pobl yn gallu trosi eu hail gartrefi i mewn i lety gwyliau, a mewn ambell i enghraifft dyw'r bobl ddim yn ei osod e mas fel llety gwyliau."
Her arall y mae'r arweinydd yn ei wynebu yw cadw pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru, ac er mwyn gwneud hynny, mae'n cydnabod yr angen i greu swyddi o ansawdd.
Y gobaith, meddai, yw defnyddio arbenigedd lleol ym myd ynni a thanwydd er mwyn cynorthwyo yn hynny o beth.
"Y gobaith yw cael bod yn hunangynhaliol o ran egni a gobeithio tanwydd gyda dyfodiad technoleg hydrogen.
"Mae 'na ambell i gynllun ar waith nawr fydd o bosib yn creu diwydiant newydd wrth greu ynni yng Ngheredigion.
"Y gobaith yw defnyddio arbenigedd y ddwy brifysgol sydd yma a'r Ganolfan Addysg bellach, ac wrth reswm, fe fydd swyddi da iawn yn dod yn sgil hynny."
Mewn cyfnod o doriadau serch hynny, bydd yr esgid yn si诺r o wasgu yn ystod cyfnod cyntaf y cynghorydd Davies wrth y llyw, a'r ffermwr yn barod iawn am yr her.
"Y broblem sydd gyda ni yng Ngheredigion yw bod y boblogaeth yn mynd lawr.
"Felly mae hwnna'n sialens. O ran y cyllido trwy grant, wrth i'r boblogaeth fynd lawr, ni'n cael llai o arian yn ganolog o Gaerdydd.
"Bydda' i'n mynd i gyfarfodydd gyda'r WLGA (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) a byddai'n rhoi'n farn er lles Ceredigion achos mae gyda ni heriau gwahanol i ardaloedd eraill."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2022