大象传媒

Ariannu 18 prosiect i wella profiadau ymwelwyr i Gymru

  • Cyhoeddwyd
cerbyd gwersyllaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gronfa'n helpu prosiectau sy'n gwneud cyrchfannau'n fwy hygyrch a chynaliadwy'n amgylcheddol

Bydd Cyngor Gwynedd yn gallu bwrw ymlaen gyda chynllun i greu safleoedd parcio dros nos ar gyfer carafanau a cherbydau gwersylla ar 么l derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Daw yn sgil problemau gyda gwersylla anghyfreithlon a sbwriel mewn rhai ardaloedd poblogaidd, yn enwedig ar 么l y cyfnod clo.

Nod y gronfa yw helpu gwella'r seilwaith "ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig ledled Cymru" gan arwain at y "pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad gwyliau".

Bydd arian yn mynd hefyd at gwblhau Cynllun Beicio Porthcawl, gan gysylltu'r llwybr beicio rhwng canol y dref a Bae Trecco, a rhwng Rest Bay a Glan yr Harbwr.

Rhwydwaith o lefydd parcio pwrpasol

Fe amlinellodd Cyngor Gwynedd fwriad y llynedd i wario 拢100,000 ar sefydlu chwe safle mewn meysydd parcio presennol, tebyg i'r aires mewn gwledydd fel Ffrainc.

Mae problemau parcio wedi codi mewn sawl rhan o'r sir, gan waethygu wrth i ymwelwyr aros ym Mhrydain pan roedd cyfyngiadau Covid-19 yn rhwystro teithiau tramor.

Yn sgil hynny fe gododd achosion ble roedd pobl yn cysgu dros nos yn eu cerbydau gwersylla mewn meysydd parcio ble nad oedd hawl ganddyn nhw i wneud. Roedd yna gwynion hefyd ynghylch problemau sbwriel.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe waethygodd y broblem gwersylla anghyfreithlon yng Nghymru wrtho godi cyfyngiadau teithio'r pandemig

Bydd yr arian ar gyfer y prosiect Aros-fan yn galluogi'r cyngor i uwchraddio chwe maes parcio cyhoeddus a chreu rhwydwaith o lefydd pwrpasol ble byddai'n gyfreithlon i bobl barcio'u cartrefi modur dros nos a chysgu ynddyn nhw.

Mae'r prosiect Aros-fan ymhlith 18 ar draws Cymru sy'n derbyn cyfanswm o 拢2.9m rhyngddyn nhw o gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig.

Dywedodd Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd, Dafydd Williams eu bod wedi cynnal "ymchwil sylweddol i gartrefi modur... er mwyn deall arosiadau dros nos anghyfreithlon neu amhriodol o fewn y sir".

Roedd yr ymchwil hwnnw'n cynnwys "gwrando ar farn cymunedau, perchnogion cartrefi modur a gweithredwyr meysydd gwersylla".

Y cam nesaf yw "treialu rhwydwaith" o hyd at chwe safle Aros-fan ar draws Gwynedd "a fydd yn darparu darpariaeth briodol dros nos ar gyfer cartrefi modur a faniau gwersylla sydd gyda'u cyfleusterau eu hunain ar y cerbyd".

Uchafswm 48 awr 'llym'

Yn 么l Pennaeth Economi a Chymuned y cyngor, Sioned Williams, fe fydd y chwe safle dan sylw "o fewn pellter cerdded i drefi a chyrchfannau allweddol" ac yn cefnogi'r economi leol o'r herwydd.

"Bydd ganddynt wasanaethau sylfaenol a byddant yn gweithredu uchafswm arhosiad llym o 48 awr," meddai.

Ychwanegodd bod y cyngor "yn gobeithio y bydd yr holl seilwaith perthnasol yn ei le erbyn Gwanwyn 2023", a bydd "yn ystyried datblygu cyfleusterau Aros-fan pellach yn y sir yn y dyfodol, os fyd y cynllun peilot yn llwyddiannus".

Gwelliannau o Benfro i Sir Y Fflint

Mae prosiectau eraill sy'n derbyn arian gan y Gronfa Pethau Bach yn cynnwys gwella'r mynediad ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn at rai o draethau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bydd hynny'n cynnwys creu llwybr cerdded ar draws y tywod a strwythur newid cludadwy gydag offer codi a chadeiriau olwyn ar gyfer traethau.

Bydd y prosiect hefyd yn gwella mynediad i'r llwybr pren yn Poppit Sands a chreu llwyfan gwylio newydd, gyda chynllun peilot llogi e-feiciau yn cael ei gynnal yn Nhyddewi.

Bydd yna gamau hefyd i uwchraddio adnoddau ar gyfer ymwelwyr a chymunedau lleol yn nau o fannau gwyrdd treftadaeth mwyaf poblogaidd Sir y Fflint - Parc Gwledig Gwepra a Chwm Maes Glas.

Bydd y cyfleusterau newydd yn cynnwys gwell toiledau ac offer chwarae hygyrch.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad pwysig amwynderau twristiaeth lleol ar brofiad cyffredinol rhywun pan fyddant ar drip diwrnod neu ar wyliau.

"Yn aml, nid ydym yn sylwi ar y cyfleusterau hyn, ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobl pan fyddant yn ymweld 芒 Chymru, tra hefyd o fudd i'r rhai sy'n byw yn yr ardal.

"Bydd y 拢2.9m o gyllid newydd rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn mynd i brosiectau a fydd yn ein helpu i wneud ein cyrchfannau'n fwy hygyrch ac yn fwy cynaliadwy, ac i ddatblygu twristiaeth er lles Cymru."

Pynciau cysylltiedig