Torri record byd ar 么l cr么l tafarndai yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd Gareth Murphy o Gaernarfon y noson orau erioed 'n么l ym mis Chwefror 2022 ar 么l iddo ymweld 芒 56 o dafarndai Caerdydd er mwyn torri record byd.
Ond, bu'n rhaid i Gareth aros tan 19 Mai nes cael llythyr gan Guiness World Records yn cadarnau fod ei ymgais wedi bod yn llwyddiannus.
Y record byd mae wedi llwyddo i'w dorri yw ymweld 芒'r nifer fwyaf o dafarndai mewn 24 awr. Roedd rhaid iddo gyflawni'r her fel unigolyn a phrynu ac yfed diod feddal neu alcoholig ymhob un.
Yn flaenorol, Matt Ellis oedd yn dal y record yma ar 么l ymweld 芒 51 o dafarndai yng Nghaergrawnt a thref St Neots fis Hydref 2021.
Gwireddu Breuddwyd
Mae wedi bod yn siwrne hir i Gareth i wireddu ei freuddwyd a thorri record byd ar 么l sawl ymgais aflwyddiannus.
Eglura: "O'n i'n meddwl ddeg mlynadd yn 么l y basa'n rwbath reit c诺l i 'neud, dwi'm yn gwybod faint o bobl o Gaernarfon sydd 'di torri un o'r blaen. O'n i'n meddwl mae 'na gorfod bod rwbath 'swn i'n gallu neud, unwaith nes i weld yr un pub 'ma, nes i feddwl, dwi am 'neud hwn ia!"
"Dwi 'di trio torri sawl un o'r blaen jest yn fy amsar fy hun. Dwi 'di trio yfad litr o gravy, aeth hwnna ddim yn dda iawn. Nes i drio taflu i芒r rubber 'ma, faint o bell o'ch di'n gallu mynd... aeth hwnna ddim yn dda iawn chwaith.
"Does 'na 'run ohonyn nhw wedi mynd yn dda iawn heblaw am yr un pubs 'ma so dwi'n ddiolchgar r诺an, ga' i stopio 'neud hyn r诺an."
Ymateb Bradley Walsh
Un wnaeth ryfeddu at ddyfalbarhad Gareth i dorri record byd oedd y cyflwynydd Bradley Walsh ar raglen Beat The Chasers yr wythnos hon. Roedd Gareth yn un o'r cystadleuwyr ac roedd Bradley Walsh yn g'lana chwerthin wrth i Gareth adrodd ei droeon trwstan wrth geisio torri record byd.
Llongyfarchiadau Gareth!
Hefyd o ddiddordeb: