Ail dai: 'Bydd angen cau' busnesau os yn newid y gyfraith

Disgrifiad o'r llun, Mae Julia a Peter Hindley yn cynnal busnes gosod gwyliau gyda chwe bwthyn a gwely a brecwast
  • Awdur, Teleri Glyn Jones
  • Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru

Bydd busnesau bythynnod gwyliau dilys yn cau pe bai newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, yn 么l perchnogion.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys codi 300% o dreth cyngor ar ail gartrefi a chodi nifer y diwrnodau y byddai angen gosod eiddo i gael ardrethi busnes o 70 i 182.

Mae rhai perchnogion tai gwyliau yn dweud y byddai cyrraedd y lefelau hyn yn amhosib a'u bod yn wynebu colli eu bywoliaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai bwriad y newidiadau, sy'n rhan o gynllun cyd-weithredu'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru, yw sicrhau bod eiddo'n cael ei osod yn rheolaidd fel llety gwyliau.

Ar hyn o bryd, gall perchnogion ail gartrefi osgoi talu treth cyngor drwy gofrestru eu heiddo fel busnes, os ydy'r cartrefi yn cael eu gosod allan am o leiaf 70 diwrnod y flwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod dan bwysau i weithredu yn dilyn protestiadau yn erbyn tai haf mewn ardaloedd sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr.

'Cael ein tagu gan drethi'

Disgrifiad o'r llun, Mae Julia a Peter Hindley wedi rhedeg eu busnes ym Mhowys am tua degawd

Mae Peter a Julia Hindley wedi cynnal busnes gosod gwyliau gyda chwe bwthyn a gwely a brecwast yn eu cartref yn Llangatwg, ger Crucywel ym Mhowys, ers tua 10 mlynedd.

Ar hyn o bryd mae 'na bobl yn aros yn y bythynnod am tua 105 noson y flwyddyn, am eu bod yn cau ar gyfer gwaith cynnal a chadw'r gaeaf ac i ostwng eu h么l troed carbon.

Dywedodd Mr Hindley: "Rydym yn rhedeg busnes proffidiol yma. Nid yw'n ymwneud 芒 faint o nosweithiau rydych chi'n llawn, mae'n ymwneud 芒 faint o elw rydych chi'n ei wneud."

Disgrifiad o'r llun, Mae cryn bwysau ar y llywodraeth i weithredu ar dai haf yn sgil protestiadau

Dywedodd y byddai cynyddu nifer y nosweithiau maen nhw'n llawn i 182 noson y flwyddyn yn golygu wynebu treth ar werth ac ardrethi busnes uwch.

"Rydym wedi edrych ar yr holl opsiynau ac rydym wedi cymryd cyngor ac nid oes sefyllfa lle allwn oroesi - nid yw'n bodoli - mae hynny oherwydd y trethi," meddai Mr Hindley.

"Cyn gynted ag y byddwn yn dechrau tyfu tu hwnt i'r maint presennol hwn, rydym yn cael ein tagu gan drethi ac fe fyddai'n rhaid i ni gau."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sefyllfa yn ergyd yn dilyn y pandemig, medd Ms Hindley

Ychwanegodd Ms Hindley: "Mae'n gwneud i mi fod eisiau crio. Rydyn ni'n colli ein cartref a'r cyfan rydyn ni wedi gweithio amdano.

"Ar hyn o bryd mae ein 15 i 20 mlynedd nesaf i gyd yn y fantol.

"Rydym wedi bod drwy'r holl bandemig ac wedi ymdopi 芒 hynny ac wedi gwneud popeth yn iawn, ac yna yn union fel yr ydym yn dod allan o hynny mae hyn wedi'i gyhoeddi.

"Mae'n gwneud i chi deimlo'n ofnadwy."

Dywedodd Mr Hindley ei fod yn "ddig ac yn siomedig" gyda Llywodraeth Cymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fydd busnesau go iawn yn cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth yma, wel mae hynny'n hollol anghywir.

"Rydym yn fusnes go iawn ac eto byddwn yn cael ein heffeithio."

'Bydd yn rhaid i mi gau lawr'

Ar hyn o bryd, gall cynghorau yng Nghymru godi premiwm treth gyngor o 100% ar ail gartrefi.

Nid yw Cyngor Powys yn codi'r premiwm llawn o 100% - maent yn codi ardoll o 75% yn lle hynny.

Dywedodd Paul Martin, sy'n rhedeg busnes tebyg ymhellach i'r gogledd yn y sir, nad oedd modd cyflawni'r trothwy o 182 y tu allan i'r mannau gwyliau mwyaf poblogaidd.

Disgrifiad o'r llun, Dydy'r sefyllfa ddim yn gynaliadwy, medd Paul Martin

Dywedodd: "Nid hanner blwyddyn yw 182 diwrnod. Mae'r tymor go iawn yn rhedeg o fis Mawrth i fis Hydref felly mae 182 diwrnod yn cynrychioli 75-80% o'r defnydd posib - sy'n gwbl amhosib ei gyflawni yn unrhyw le ar wah芒n i'r lleoliadau gorau un.

"Fel arfer telir treth ar elw fel eich bod yn talu canran o'ch elw, ond mae'r dreth gyngor hon yn d芒l sydd yn sefydlog dim ond ar gyfer agor.

"Felly cyn i chi hyd yn oed ddechrau'r flwyddyn rydych eisoes mewn dyled. Dyw hyn ddim yn gynaliadwy. Byddai'n rhaid i chi gau. Bydd yn rhaid i mi gau i lawr."

Mae bythynnod Mr Martin yn cael eu gosod i elusen ar gyfer plant anabl ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau ysgol.

Dywedodd y gallai cau ei safle roi mwy o bwysau ar dai yn y pentref.

"Os ydych chi'n prynu t欧 yn y pentref, ac roedd rhywun yn arfer byw ynddo ac rydych chi'n ei droi'n d欧 gwyliau, yna mae rhywun wedi colli cartref," meddai.

"Ond doedd y bythynnod yma byth yn gartrefi - maen nhw'n rhan o fy nghartref i.

"Pe bai'n rhaid i mi gau yna byddai'n rhaid i eiddo eraill gynnig y gwasanaethau rwy'n eu darparu yma, gan roi mwy o bwysau ar y tai yn y pentrefi."

Ychwanegodd ei fod yn teimlo ei fod yn mynd i gael ei "drethu i mewn i oblivion".

'Morthwyl i gracio cneuen'

Dywedodd James Evans, Aelod Ceidwadol y Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, ei fod wedi cael ei "orlifo" gydag e-byst am y newidiadau, a chyfeiriodd at y ddeddfwriaeth fel un sy'n "defnyddio morthwyl i gracio cneuen".

"Mae hwn yn bolisi gwael. Dyma Lywodraeth Cymru yn meddwl y gallant ddatrys problem dim ond drwy drethu eu ffordd allan ohoni ac nid yw'n iawn i'n busnesau go iawn ledled Cymru," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r polisi yn un gwael, medd James Evans

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bwriad y newid yn y meini prawf yw sicrhau bod yr eiddo dan sylw yn cael ei osod yn rheolaidd fel busnesau llety gwyliau.

"Gwnaethom ymgynghori ar y dull polisi y llynedd ac ar hyn o bryd rydym yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad technegol diweddar ar y newidiadau arfaethedig."