大象传媒

Llywodraeth Cymru'n galw am ddatganoli'r system gyfiawnder

  • Cyhoeddwyd
Carchar

Byddai nifer y troseddwyr yn y carchar a'r defnydd o ddedfrydau byr yn cael eu torri pe bai gan Lywodraeth Cymru bwerau dros y system gyfiawnder, meddai.

Mae Llafur eisiau system gyfiawnder i Gymru, ond mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthod y syniad.

Yr wythnos diwethaf clywodd cynhadledd y Tor茂aid yng Nghymru na fyddai rhagor o bwerau'n cael eu datganoli o San Steffan i'r Senedd o dan arweinyddiaeth Boris Johnson.

Ond yn 么l Llywodraeth Cymru byddai rhaglenni iechyd meddwl a chymorth i ddefnyddwyr cyffuriau yn disodli dedfrydau carchar "pan fo'n briodol".

Bydd strategaeth gwrth-drais newydd hefyd yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth fel rhan o gynlluniau "i wneud Cymru'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw".

'Dyletswydd i baratoi ar ei gyfer'

Yn 2019 argymhellodd Comisiwn Thomas, dan arweiniad cyn-brif Ustus, y dylid datganoli'r system gyfiawnder.

Ond er gwaethaf gwrthwynebiad yn San Steffan, mae adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru yn dweud bod y cam yn "anochel" a bod gan y llywodraeth ddyletswydd i baratoi ar ei gyfer.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mick Antoniw: 'Yr unig ffordd gynaliadwy o wella'r system gyfiawnder yw lleihau nifer y bobol sy'n dod i gysylltiad 芒 hi'

Gan esbonio'r elfennau craidd o'r system, mae gweinidogion yn dweud y byddent yn "rhoi'r flaenoriaeth uchaf" ar yr "argyfwng cenedlaethol" o drais gan ddynion yn erbyn menywod, a'r nifer "brawychus o isel" o ddedfrydau am drais rhywiol.

Dyw dedfrydau byr o garchar ddim yn gweithio ac fe fyddai'u defnydd yn cael ei "leihau'n sylweddol", meddai'r llywodraeth.

Mae'r ddogfen yn addo gweithio tuag at "Gymru wrth-hiliol", gan sicrhau bod pobl o bob cefndir ethnig yn cael eu trin yn gyfartal.

Mae'r llywodraeth hefyd eisiau "lleihau maint poblogaeth carchardai drwy fynd ar drywydd dewisiadau eraill yn lle carchar pan fo'n briodol, megis rhaglenni i fynd i'r afael 芒 materion iechyd meddwl a chymorth gyda thriniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol".

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, taw'r "unig ffordd gynaliadwy o wella'r system gyfiawnder yw lleihau nifer y bobol sy'n dod i gysylltiad 芒 hi".

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood, bod galwad Llafur yn dangos eu bod wedi colli cysylltiad 芒 blaenoriaethau pobl gyffredin.

"Wrth i deuluoedd wynebu costau byw cynyddol a GIG Cymru yn dirywio dan weinidogion Llafur, mae'r prif weinidog, unwaith eto, yn dilyn agenda ei bartneriaid cenedlaetholgar."