Pryder elusennau dros gyllido cynlluniau'r dyfodol
- Cyhoeddwyd
Mae elusennau'n dweud bod prosiectau sy'n cefnogi rhai o bobl fwyaf bregus Cymru dan fygythiad oherwydd bod gweinidogion y DU yn "rhy araf" i sefydlu cynllun ariannu newydd.
Yn ôl Llywodraeth y DU mae gan gynghorau bellach "reolaeth uniongyrchol" dros sut mae arian ar gyfer cynlluniau o'r fath, oedd yn arfer cael eu hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, yn cael ei wario.
Mae cynghorau'n dweud eu bod yn llunio cynlluniau ar gyfer sut y bydd elusennau yn gwneud cais am arian.
Ond bydd y broses hon yn cymryd misoedd, ac erbyn hynny bydd yn rhaid i lawer o brosiectau gau, yn ôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
'Mewn limbo'
Dywed CGGC eu bod wedi helpu dros 22,000 o bobl gael gwaith ar draws Cymru.
Ers 2015 mae wedi dosbarthu £48m mewn arian Ewropeaidd drwy ei Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, gan helpu'r rheiny sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur.
Ond dywed y corff ymbarél fod elusennau ar draws Cymru yn cael eu gadael "mewn limbo", gyda'r rhan fwyaf o brosiectau yn dod i ben fis Medi.
Wedi'u disgrifio fel cynlluniau sy'n "newid bywydau", mae'n bosibl y bydd yn rhaid iddyn nhw nawr roi'r gorau iddi dros dro, a rhai yn barhaol, oherwydd yr oedi o ran adnewyddu cronfeydd Ewropeaidd wedi Brexit.
Yn Hydref 2020 daeth beirniadaeth gan bwyllgor o Aelodau Seneddol am yr oedi "annerbyniol" wrth ddarparu manylion am sut y byddai Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU yn gweithio.
Fis diwethaf fe gyhoeddwyd rhai manylion, gyda gweinidogion yn honni bydden nhw'n "torri biwrocratiaeth ac yn rhoi rheolaeth i arweinwyr etholedig lleol" yng Nghymru wrth benderfynu sut i wario bron i £600m dros y tair blynedd nesaf.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bydd y gronfa'n golygu bod Cymru "dros £1bn yn waeth ei byd o arian yr UE ddim yn cael ei ddisodli'n llawn". Roedd cronfa'r Undeb Ewropeaidd werth cyfartaledd o £375m y flwyddyn i Gymru.
'Gymaint o drueni'
Ers dechrau'r flwyddyn mae Terris Bird, 63, wedi bod yn gweithio mewn caffi yn Llanrhystud, Ceredigion yn gweini a gwneud cacennau.
Darparwyd hyfforddiant hanfodol diolch i'r cynllun Cynhwysiant Gweithredol, sydd hefyd yn talu rhan o'i chyflog.
Ond pan ofynnwyd iddi ble mae hi'n meddwl y byddai heb y prosiect, dywedodd "yn sownd gartref dwi'n meddwl a ddim yn gweld neb".
"Mae cael y swydd yn dda iawn i mi yn bersonol."
Dywedodd perchennog y caffi, Anwen Rosser McConnochie ei bod wedi dibynnu ar y prosiect i gyflogi Terris ac aelod arall o staff, sy'n helpu cadw'r busnes i fynd.
"Mae pwysigrwydd y prosiect newydd fod yn hanfodol a dweud y gwir.
"Oni bai am y prosiect dwi'n amau ​​y bydden ni yma nawr. Mae'n gymaint o drueni bod y cyllid yma'n dod i ben."
'Ffynhonnell bwysig iawn ar fin dod i ben'
Dywedodd Matthew Brown, o CGGC, nad yw'r cynllun newydd mewn sefyllfa eto i ddyrannu arian i elusennau, sy'n golygu y bydd rhai o bobl fwyaf bregus Cymru ar eu colled.
"Mae gennym ni sefydliadau yn dweud wrthym fod ganddyn nhw lawer iawn o alw yn dod o'u cymunedau ac mae ffynhonnell bwysig iawn o gyllid ar fin dod i ben," meddai.
"Felly sut maen nhw'n mynd i allu ateb y galw hwnnw gan y bobl wirioneddol fregus hynny yn eu cymunedau os oes gennym ni Arian Ewropeaidd yn dod i ben, a chronfeydd newydd llywodraeth y DU ddim yn cychwyn mewn pryd?
"Yn ystod argyfwng costau byw mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu cefnogi'r bobl hynny."
Dywed CGGC y bydd yn rhaid i lawer o fudiadau gwirfoddol ddiswyddo staff oherwydd yr ansicrwydd.
"Mae hynny'n golygu nad yw pobl yn cael eu cefnogi, nid yw'r bobl hynny wedyn yn cael yr ymweliadau, y sgiliau ychwanegol a'r addysg y gallent fod eu hangen yn wir.
"Mae'n mynd i ddiflannu wedyn," meddai Matthew.
'Perygl o golli allan'
Mae Llywodraeth y DU yn dweud gall cynghorau ariannu prosiectau cyn cwblhau mecanwaith Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ond fyddant mewn perygl o golli allan os penderfynir wedyn nad yw'r cais yn gymwys ar gyfer cefnogaeth.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn o'r materion sy'n wynebu sefydliadau'r sector gwirfoddol a byddant yn gweithio gyda nhw dros yr wythnosau nesaf i edrych ar brosiectau sy'n cyd-fynd â'u cynlluniau buddsoddi newydd a, lle mae hynny'n wir, i edrych ar sut y gellir cefnogi'r mentrau hynny i sicrhau parhad ac osgoi colli staff da a gwasanaethau o safon i gymunedau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021