大象传媒

'Amaeth yn wynebu newid enfawr yn y degawd nesaf'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aled Rhys Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Aled Rhys Jones yn dechrau ar ei waith yn swyddogol ym mis Medi

Mae darpar bennaeth newydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru fod amaeth yng Nghymru yn "wynebu newid enfawr" yn y degawd nesaf.

Yn 么l Aled Rhys Jones bydd sioeau amaethyddol hefyd yn wynebu heriau mawr gyda chwyddiant yn un ohonynt.

"Rwy 'di siarad 芒 nifer o sioeau ar draws y Deyrnas Unedig ac ma' nhw gyd yn dweud fod effaith chwyddiant yn un o'r prif heriau," meddai Aled Rhys Jones wrth siarad 芒 Dros Frecwast.

"Mae nifer yn dweud fod cynnydd o 30% mewn costau llwyfannu sioeau a bydd hynny'n gwthio ni i ailfeddwl sut mae sioeau yn gweithredu".

Fe fydd Mr Jones yn dechrau yn ei swydd fis Medi gan olynu Steve Hughson - fe fydd yn gyfrifol am y Sioe Amaethyddol a'r Ffair Aeaf ymhlith digwyddiadau eraill.

"Bydd cyfrifoldeb arna i fel prif weithredwr hefyd i ddod o hyd i ffynonellau newydd o incwm - efallai defnyddio y safle, a chael mwy o incwm y tu allan i gyfnod y sioe.

"Mae'r Gymdeithas yn bodoli trwy gydol y flwyddyn, nid dim ond am un wythnos ym mis Gorffennaf.

"Mae'n rhaid edrych ar y cynllun strategol a'r cynllun busnes i sicrhau ein bod ni gallu gofalu am y Gymdeithas a'r elusen yma am y ganrif nesaf."

'Cydnabod sgiliau'

Dywedodd Mr Jones wrth raglen Dros Frecwast y bydd yna newidiadau "o fewn y deg blynedd nesa ac y bydd unrhyw beth sy'n cael effaith ar amaeth yn cael effaith ar y Gymdeithas a'r Sioe."

"Os feddyliwch chi mae'r system cymorthdaliadau yn mynd i newid yn gyfan gwbl, mae effaith y cytundebau masnach ry'n ni wedi eu gweld gyda gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd a hefyd yr holl ffocws ar leihau 么l troed carbon a falle welwn ni newidiadau ym mhatrymau prynu cwsmeriaid."

Gallai hyn, meddai, arwain at greu cystadlaethau newydd yn y Sioe Fawr.

"Cystadlaethau newydd i gydnabod y sgiliau bydd angen ar ffermwyr yn y dyfodol - fel deall iechyd y pridd, atal baeddu carbon ac ati."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y Sioe Frenhinol yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 yn 2019 - y tro olaf iddi gael ei chynnal cyn y pandemig

Dywedodd Mr Jones, sydd hefyd yn gyflwynydd bwletin amaeth Radio Cymru, ei bod yn fraint a chyfrifoldeb anferth i gael ei benodi fel pennaeth ond fod "heriau mawr o'u blaenau".

"Mae'r Sioe wedi chwarae rhan fawr yn fy mywyd i a dwi wir yn edrych ymlaen at ddechrau yn swyddogol ym mis Medi, er fe fyddaf yn gwneud 'chydig o waith cyn hynny yn enwedig yn ystod y Sioe eleni."

Dywedodd fod hi'n gyfnod cyffrous ond yn un heriol i gymryd yr awenau a bod cyfrifoldeb ar y Sioe i bontio rhwng gwlad a thref.

"Ry' ni mewn cyfnod lle mae pobl yn cwestiynu be mae'n nhw'n ei fwyta ac effaith amaeth ar yr amgylchedd - felly mae r么l bwysig iawn gyda ni i bontio rhwng gwlad a thref, a chymunedau gwledig a threfol."

Bydd cyfweliad Aled Rhys Jones i'w glywed yn llawn ar Dros Frecwast fore Mercher.

Pynciau cysylltiedig