Gweilch Llyn Brenig: Gobaith wedi siom 2021
- Cyhoeddwyd
Ar 么l siom y llynedd mae 'na obaith am newyddion da eleni i'r p芒r o weilch y pysgod sy'n nythu ger Llyn Brenig.
Ddiwedd Ebrill y llynedd aeth rhywun ati efo llif gadwyn yn ystod oriau'r nos i dorri polyn oedd yn dal llwyfan eu nyth i lawr a disgynnodd i'r d诺r a chollwyd yr unig 诺y oedd ynddo.
Ond eleni maen nhw wedi dychwelyd o'r Affrig ac wedi dodwy tri 诺y mewn nyth pwrpasol arall a godwyd ar eu cyfer.
Dywedodd Nick Kite, Rheolwr Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, fod digwyddiad y llynedd wedi bod yn un "torcalonnus" ac yn "gic yn y perfedd" i bawb oedd wedi bod yn rhan o brosiect Gweilch y Pysgod ar Lyn Brenig.
Ond mae 'na newyddion da eleni, efo tri 诺y, a dywedodd Nick Kite ei fod wrth ei fodd.
Dywedodd bod 'na gamau diogelwch ychwanegol wedi eu cymryd i warchod y nyth.
"Mae gennym wirfoddolwyr sy'n gwarchod y nyth 24 awr o bob dydd," meddai.
"Mae gennym gamer芒u ar bolion ac mae gennym ni fesurau eraill cyfrinachol na allwn ni eu datgelu.
"Mae 'na bob gobaith y bydd pethau'n llwyddiannus eleni ac rydyn ni'n edrych ymlaen am ddigon o gywion yn y dyfodol."
Y gobaith ydi y bydd yr 诺y cyntaf yn deor o tua chanol i ddiwedd wythnos nesa'.
Fe fu Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad i falu'r nyth y llynedd ond chafodd neb ei ddal.
Dyma oedd ganddyn nhw i'w ddweud mewn datganiad: "Yn dilyn difa nyth Gweilch y llynedd yng Nghronfa Dd诺r Llyn Brenig, cynhaliwyd ymchwiliad dwys gyda chyfres o linellau ymholiadau.
"Yn anffodus, ni lwyddwyd i ddal unrhyw un o dan amheuaeth ac mae'r ymchwiliad nawr wedi dod i ben."
Wrth symud ymlaen, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio yn agos gydag asiantaethau partner, sef yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a Phrosiect Gweilch Brenig gyda golwg i wella diogelwch ar y safle a chodi ymwybyddiaeth o'r Gweilch mewn ymgais i leihau unrhyw beryg yn y dyfodol.
"Rydym yn ymwybodol bod tua 50+ yn gwirfoddoli ym Mhrosiect Gweilch Brenig ac mae'r diogelwch wedi gwella gydag offer newydd fel camer芒u thermal. Hefyd, mae ffens ychwanegol a chamer芒u cylch cyfyng wedi cael eu gosod yn y safle.
"Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddiogelu a gofalu am yr adar prin hyn."
Yn gyffredinol mae 'na obeithion mai ehangu fydd hanes gweilch y pysgod yng Nghymru. Y gred ydi bod yna rhyw bum i chwe ph芒r yn swyddogol yn magu yn y gogledd a'r canolbarth ond mi all fod mwy na hynny.
Kelvin Jones ydi Swyddog Datblygu y BTO yng Nghymru sef yr Ymddiriedolaeth Adaryddu Prydeinig.
"Yn 么l yn 2004 gathon ni'r ddau b芒r cyntaf yn Y Trallwng ac ar y Glaslyn ger Porthmadog. Erbyn heddiw mae gen ti o leiaf dau b芒r ar y Glaslyn, p芒r lawr ar y Dyfi, Llyn Clywedog, i fyny ar y Brenig a faswn i'n synnu dim fasa 'na sawl p芒r arall wedi cuddio ar ambell i aber arall rownd Cymru erbyn heddiw.
"Mae nhw'n ffynnu i feddwl bod ni wedi cychwyn o ddau b芒r yn 2004."
Dywedodd bod 50 o gywion wedi deillio o'r hen nain ar y Glaslyn.
"Oes mae 'ne ddyfodol gwych iddyn nhw - ond i ni beidio cael yr un broblem a gawson ni llynedd ar Lyn Brenig, does dim byd i stopio nhw rhag mynd i bob aber yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd2 Mai 2021
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd3 Mai 2021