Wrecsam yn colli 4-5 yn erbyn Grimsby yn y funud ola'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Wrecsam yn aros yn Nghynghrair Genedlaethol Lloegr wedi iddyn nhw golli yn erbyn Grimsby ym munudau ola' rownd gyn-derfynol gemau'r ail gyfle.
Fe sgoriodd Luke Waterfall i'r ymwelwyr ym munudau olaf yr amser ychwanegol gan sicrhau pump g么l i Grimsby yn erbyn pedair Wrecsam.
Roedd yna gryn densiwn ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn gan fod hon yn g锚m gwbl allweddol i'r Dreigiau - roedd yn rhaid iddyn nhw ennill os am gael dyrchafiad o Gynghrair Genedlaethol Lloegr.
Grimsby oedd yn chwarae orau ar ddechrau'r g锚m yn y Cae Ras - roeddynt yn benderfynol o dewi y deg mil a mwy o gefnogwyr Wrecsam ond yn araf bach daeth mwy o drefn ar chwarae Wrecsam.
Ar 么l 12 munud fe wnaeth Paul Mullin wibio heibio amddiffynnwr Grimsby cyn iddo gael ei dynnu i lawr yn y blwch cosbi ac roedd hi'n gic o'r smotyn. Mullin oedd yn cymryd y gic a chydag ergyd rymus a darodd ochr isaf y trawst ar ei ffordd i'r rhwyd, rhoddodd y Dreigiau ar y blaen.
Ond tra bod y cefnogwyr cartref yn dathlu'n wyllt, cadwodd Grimsby eu pennau ac o fewn eiliadau roedd hi'n 1-1 gydag ergyd o ugain llath gan John McAtee.
Roedd Wrecsam wedi hynny yn bygwth g么l Grimsby yn gyson ond heb lwyddiant.
Wrth i'r hanner cyntaf dynnu at ei derfyn fe gafodd McAtee ddwy ymdrech arall o bell ar g么l Wrecsam.
Wedi hanner cyntaf cystadleuol iawn roedd y ddau d卯m yn gyfartal 1-1.
Sawl g么l arall!
Fe ddechreuodd Grimsby yr ail hanner ar d芒n gyda McAtee yn cael dwy ymdrech dda yn cael eu harbed gan Christian Dibble yn g么l Wrecsam. Fe ddaeth trydydd cyfle gyda chapten Grimsby, Luke Waterfall, yn rhwydo'r b锚l gyda'i ben a rhoi yr ymwelwyr ar y blaen.
Bellach roedd ton o nerfusrwydd ar y Cae Ras ond wedi 63 munud fe ddaeth achubiaeth wedi i Ben Tozer sgorio ar y postyn cefn ac roedd y Dreigiau yn gyfartal.
Ddwy funud yn ddiweddarach roedd Wrecsam yn 么l yn hanner Grimsby a Tozer yn cymryd tafliad o ochr y cae, cafwyd peniad ymlaen gan Palmer a daeth y b锚l at Mullin ac roedd Wrecsam ar y blaen (3-2). Roedd dwy funud wedi troi'r g锚m wyneb i waered.
Erbyn hyn roedd cefnogwyr y t卯m cartref yn gorfoleddu, ond roedd mwy o dioddefaint i ddod. Wedi 72 munud roedd Grimsby yn gyfartal eto (3-3) wrth i Ryan Taylor sgorio gyda pheniad arbennig.
Wedi chwe munud roedd Grimsby ar y blaen wrth i'r eilydd Emmanuel Dieseruvwe sgorio ond doedd y g锚m ddim ar ben ac ar 么l 80 munud roedd Wrecsam yn gyfartal eto (4-4) wrth i'r bachgen lleol, Jordan Davies, sgorio.
G么l yn yr amser ychwanegol
Roedd y timau yn paratoi am giciau o'r smotyn wrth i gyfnod yr amser ychwanegol ddod i ben ond cyn i hynny ddigwydd fe sgoriodd Luke Waterfall gan achosi torcalon i'r Dreigiau.
Y sg么r terfynol Wrecsam 4-5 Grimsby.
Grimsby felly fydd yn chwarae yn y rownd derfynol yn Llundain ar ddydd Sul, 5 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022
- Cyhoeddwyd8 Mai 2022