Seddi pafiliwn yr Eisteddfod: Pob sedd bellach ar gael
- Cyhoeddwyd
Mae pob sedd o fewn pafiliynau Eisteddfod yr Urdd "bellach ar gael i'w defnyddio", yn dilyn problem diogelwch ddydd Llun.
Roedd dros 1,000 o seddi'r tri phafiliwn - sef hanner y capasiti - ar gau ar ddiwrnod cyntaf yr 诺yl, ac roedd yna giwiau mawr tu allan gan fod yna lai o le i bobl gael eistedd.
Bu'n rhaid cymryd y cam yn sgil problem gydag eisteddle mewn digwyddiad arall a gafodd ei osod gan yr un contractwyr ag sy'n darparu seddi'r eisteddfod.
Ond yn siarad fore Mawrth, dywedodd Si芒n Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Mae'r tri phafiliwn bellach ar gael i'w defnyddio, ac maen nhw'n llawn."
Yn gynharach, roedd prif weithredwr yr Urdd yn dweud ei bod yn "hyderus" y byddai modd datrys y broblem yn ymwneud 芒'r seddi yn ystod y dydd.
"Yn sicr, mae'r broblem allan o'n dwylo ni," meddai Si芒n Lewis ar raglen Dros Frecwast.
"Fe gafon ni nifer fawr o drafodaethau ddoe 'efo HSC sydd yn rheoli yr holl ddigwyddiad o'r ochr yna.
"Dwi'n hyderus y bydd y broblem wedi ei datrys.
"Mae'n bwysig nodi hefyd nad oedd dim un person wedi colli allan ar gweld eu plant a phobl ifanc yn cystadlu ac o gael y cyffro yna a'r mwynhad o'i weld ar wynebau y cystadleuwyr a hefyd wynebau eu teuluoedd.
"Felly yn sicr 'da ni yn gobeithio erbyn heddiw bydd y broblem wedi ei datrys. Byddwn ni yn cael diweddariad yn fuan bore heddiw o'r sefyllfa."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022