'Rhaid cyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio gweithfeydd dur'
- Cyhoeddwyd
Mae angen cyflymu'r gwaith o ddatgarboneiddio gweithfeydd dur, yn 么l pwyllgor o aelodau seneddol.
Mewn adroddiad beirniadol maen nhw'n rhybuddio y gallai dyfodol y diwydiant fod yn y fantol, gan orfodi'r Deyrnas Unedig i ddibynnu ar fewnforion.
Daw hyn yn dilyn galwadau gan berchnogion safle dur mwyaf Cymru ym Mhort Talbot i lywodraeth y DU gyhoeddi "llwybr clir" at ddyfodol gwyrdd i'r sector.
Dywedodd llywodraeth y DU fod ganddi nifer o gynlluniau sy'n cefnogi'r diwydiant i symud at ddyfodol carbon isel.
Mae dur yn gyfrifol am 14% o'r nwyon t欧-gwydr sy'n cael eu cynhyrchu gan ddiwydiannau'r DU ar hyn o bryd.
Ond er mwyn helpu adeiladu tyrbinau gwynt, a cherbydau trydan, glanach y dyfodol mae mynd i fod angen llawer iawn yn fwy ohono.
Cynhaliodd pwyllgor archwilio amgylcheddol San Steffan ymchwiliad i asesu'r opsiynau sydd ar gael i weithfeydd dur leihau eu hallyriadau.
Roedd yr rhain yn cynnwys defnyddio hydrogen yn lle glo, mwy o ddibyniaeth ar ailgylchu hen ddur, neu ddal a storio nwyon sy'n cael eu hallyrru.
Daeth aelodau'r pwyllgor i'r casgliad bod cynlluniau llywodraeth y DU ar gyfer y technolegau hyn yn "brin o uchelgais" o'u cymharu 芒 gwledydd eraill.
Dywedodd rheolwyr y diwydiant yn ystod sesiynau'r ymchwiliad os na ddaw gweinidogion 芒 strategaeth glir yn fuan, mae'r sector am wynebu "mwy o dorri 'n么l".
'Angen mwy o gyfarwyddyd'
Eisoes, roedd TATA - sy'n gyfrifol am safleoedd ym Mhort Talbot, Llanelli, Casnewydd a Shotton - wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru bod angen polis茂au "chwyldroadol" gan y llywodraeth i'w helpu i ddadgarboneiddio.
Ym Mhort Talbot maen nhw eisoes wedi llwyddo torri ar rai allyriadau drwy ailgylchu mwy o ddur sgrap, ac yn dechrau arbrofi 芒 thechnolegau dal a defnyddio carbon.
Ond er mwyn gwneud rhywbeth gwirioneddol arwyddocaol yngl欧n 芒 sefyllfa'r gweithfeydd fel y man yng Nghymru sy'n cynhyrchu'r nifer fwyaf o allyriadau carbon, maen nhw'n awgrymu bod angen mwy o gyfarwyddyd gan lywodraeth y DU.
Er enghraifft, yn 么l adroddiad y pwyllgor, mae lleoliad Port Talbot - ymhell o safleoedd posib er mwyn claddu CO2 dan F么r y Gogledd - yn golygu bod sefydlu technolegau dal a storio carbon yno yn "fwy anodd".
Felly mae gwaith i drio sefydlu'r ardal fel canolbwynt posib ar gyfer cludo CO2 o nifer o wahanol ddiwydiannau lleol ar gychod i'r safleoedd claddu dan ystyriaeth.
Gofynnodd y pwyllgor i lywodraeth y DU a ydy Port Talbot yn debygol o gael ei ddewis i gymryd rhan mewn cynllun i ffurfio cyfres o "glystyrau" ar gyfer datblygu technolegau dal, defnyddio neu storio carbon.
Os ddim, mae'r aelodau seneddol am i weinidogion egluro fel arall y gallan nhw gefnogi'r gwaith o drawsnewid y safle.
'Arwyddion clir a buddsoddiad digonol'
Llynedd, llwyddodd prosiect yn Sweden ddarparu'r cyflenwad cyntaf yn y byd o "ddur gwyrdd" - wedi'i greu drwy ddefnyddio hydrogen yn lle glo.
Dywedodd Catrin Ellis-Jones, o gwmni Vattenfall - sef un o'r cwmn茂au oedd ynghlwm 芒'r gwaith - wrth raglen Beti a'i Phobol ar 大象传媒 Radio Cymru yn ddiweddar y byddai'n "anghygoel" gweld cynllun o'r fath yn Ne Cymru - a "chreu hwb digarbon yn ein hwb diwydiannol ni".
Ond dywedodd cwmn茂au gan gynnwys TATA wrth y pwyllgor bod "ansicrwydd yngl欧n 芒 faint o gyflenwad o hydrogen fydd ar gael yn y dyfodol a pha mor fforddiadwy fydd e" yn amharu ar eu hyder i fuddsoddi yn y ffordd yma o weithio.
Roedd prisiau ynni uchel yn effeithio ar allu gweithfeydd i roi mwy o ffocws ar doddi hen ddur mewn ffwrnesi trydan.
Galwodd y pwyllgor ar y llywodraeth i ddweud a fydden nhw'n cynnig cytundeb penodol i'r diwydiant dur i helpu gyda chostau ynni.
"Wrth i dechnolegau addasu mewn gwledydd eraill, rhaid i ni ddarganfod ffordd o ddadgarboneiddio ein diwydiant (dur) ni ar gyfer Prydain Sero Net," meddai cadeirydd y pwyllgor Philip Dunne AS.
"Rhaid i'r llywodraeth gynnig arwyddion clir a buddsoddi'n ddigonol mewn gwaith ymchwil a datblygu fel bod y diwydiant yn gallu mabwysiadu ffyrdd gwahanol o gynhyrchu dur sy'n arwain at gynhyrchu llai o garbon."
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran busnes, ynni a strategaeth diwydiannol (BEIS) bod y llywodraeth yn "gweithio yn agos gyda'r sector... mewn ffordd sy'n cefnogi cystadleuaeth, swyddi a thyfiant glan".
"Mae ein cefnogaeth parhaus ar gyfer trawsnewidiad carbon isel y sector yn cynnwys 拢315m ar gyfer cronfa trawsnewid ynni diwydiannol, 拢1bn i gefnogi datblygiad dal, storio a defnyddio carbon, a 拢240m i dyfu cynhyrchu hydrogen yn y DU".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2021