Cynnau ffaglau ar draws y wlad i nodi'r Jiwbil卯 Blatinwm
- Cyhoeddwyd
Bydd dros 1,500 o ffaglau yn cael eu cynnau ar draws y Deyrnas Unedig ddydd Iau i nodi Jiwbil卯 Blatinwm y Frenhines.
Mae'r ffaglau yn cael eu cynnau i ddathlu'r Frenhines yn cyrraedd 70 mlynedd ar ei gorsedd.
Dyma fydd y tro cyntaf i Frenhines Brydeinig ddathlu Jiwbil卯 Blatinwm.
Mae ffaglau'n cael eu goleuo i nodi digwyddiadau fel jiwbil茂au, priodasau a choroniadau brenhinol.
Fe fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn dathlu'r Jiwbil卯 mewn digwyddiadau yng Nghaerdydd a Llundain.
Dywedodd: "Hoffwn gynnig diolch a llongyfarchiadau i'r Frenhines wrth i ni ddathlu'r digwyddiad hanesyddol hwn."
'Anrhydedd fawr'
Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym Mae Caerdydd fel rhan o'r dathliadau.
Bydd Saliwt Gynnau Brenhinol yn digwydd tu allan i Blas Roald Dahl am 13:15, fel arwydd bod dathliadau'r Jiwbil卯 wedi dechrau.
Fel rhan o'r digwyddiad, bydd 42 saethiad yn cael eu tanio; 21 i nodi pen-blwydd y Frenhines, a 21 arall i nodi'r Jiwbil卯.
Bydd hyn cael ei ddilyn gan gerddoriaeth filwrol gan Fand Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol.
Mae'n ddigwyddiad pwysig i Ddirprwy Gomander y Fyddin yng Nghymru, y Cyrnol Sion Walker. Ef fydd yn rhoi'r saliwt i ganiat谩u i'r gynau gael eu saethu.
"Ymunais 芒'r Fyddin Wrth Gefn yn 1985 a chomisiynwyd ym 1991, gan ymuno 芒 Sgwadron 224 yn Llanbedr Pont Steffan.
"Fe wnes i gyfarfod 芒'r Frenhines am y tro cyntaf ym 1992 ym mlwyddyn par锚d yr Iwmyn fel y swyddog iau yn Iwmyn Penfro.
"Ni ragwelais erioed gyrraedd rheng y Cyrnol a dod yn Ddirprwy Gomander y Fyddin yng Nghymru ac ni ddychmygais, 30 mlynedd yn ddiweddarach, y byddai gennyf y fraint o oruchwylio tanio lladd-dy 42 gwn ar ddiwrnod mor addawol.
"Mae'n anrhydedd fawr i oruchwylio teyrnged Cymru i'w Mawrhydi y Frenhines heddiw."
Gyda'r nos, bydd y ffagl tu allan i adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd yn cael ei goleuo am 21:45, i gyd-fynd 芒'r ffaglau eraill fydd yn cael eu cynnau ar draws y Deyrnas Unedig.
Bydd ffaglau hefyd yn cael eu cynnau ym mhrifddinasoedd y 54 wledydd y Gymanwlad. Fe fydd yna arddangosfa t芒n gwyllt i orffen y dathliadau yn y Bae.
'Pobl yn awyddus i ddod at ei gilydd'
Bydd digwyddiadau hefyd yng nghartref Eisteddfod yr Urdd.
Yn Sir Ddinbych mae yna ddathliadau i nodi goleuo'r ffaglau yn Arena Digwyddiadau'r Rhyl rhwng 21:00-22:00.
Yn 么l y cyngor, fe fydd y digwyddiad yn gyfle i Sir Ddinbych "ymuno 芒'r dathliadau" ar draws y byd.
Bydd ffaglau yn cael eu goleuo ar hyd arfordir y sir ym Magillt, Doc Maes Glas, Fflint Point, Y Fflint ac yn Saltney hefyd.
Dywedodd Helen Mrowiec, arweinydd safleoedd ar gyfer cynghorau Sir Ddinbych a Fflint: "Mae 'na dipyn o waith trefnu 'di bod o ran asesiadau risg a phethau felly.
"Ond gan fod gyda ni ffaglau ar leoliad yn barod, mae'n eitha' hwylus. Mae ffagl Bagillt yn ddraig hynod o nodweddiadol, felly mae o'n rhan o'r tirlun.
"Mae cymunedau ar draws Sir y Fflint wedi rhoi trefniadau gwahanol yn eu lle, ac maen nhw'n amrywio o farbeciws, picnics, bandiau a grwpiau dawnsio.
"Dwi'n meddwl bod pobl yn awyddus i ddod at ei gilydd ac yn awyddus i symud ymlaen o'r cyfnod Covid."
Fe fydd y brif ffagl yn cael ei goleuo mewn seremoni arbennig ym Mhalas Buckingham ddydd Iau.
'Fydda i ddim yn dathlu'
Ond nid pawb sy'n dathlu.
Mae Erwyn Jones yn weriniaethwr sydd yn byw ym Mlaenau Ffestiniog.
Dywedodd ei bod yn annheg fod yna ddisgwyl i bobl yng Nghymru ddathlu'r Frenhines, gan ei bod hi'n "fenyw gyfoethog" heb unrhyw gysylltiad 芒 Chymru.
"S'gen i ddim llawer o farn amdani [Y Frenhines], ond dwi'n credu mae'n hen bryd bod ni'n gofyn y cwestiwn, 'ydyn ni fel gwlad eisiau parhau efo'r frenhiniaeth?'
"Dwi'n credu allan o boblogaeth o 66 miliwn dwi'n si诺r gallwn ni wneud yn well na chael pennaeth sy'n dod o'r un teulu ers blynyddoedd a blynyddoedd.
"Yn sicr fydda i ddim yn dathlu'r Jiwbil卯. Mi fydda i i ffwrdd o'r gwaith ond just am fod y gwaith yn cau, felly mae pawb adre. S'dim gen i lawer o ddewis am hynny."
Ymateb cymysg ar y Maes
Roedd ymateb cymysg i'r dathliadau ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych.
Fe ddywedodd Elsie Roberts o Bwllheli: "I bawb sydd wrth ei bodd yn dathlu, dwi'n meddwl ei fod e'n oce i bobl ddathlu.
"Falle dydy e ddim i bawb, ond os ydyn nhw eisiau dathlu, rhydd i bawb dathlu."
Ond ychwanegodd Ken Owen: "Bydda i'n gwneud bob dim yn fy ngallu i osgoi'r Jiwbil卯 yn llwyr.
"'Nes i ystyried mynd i Iwerddon fel bod i ddim yn gweld unrhyw beth, ond dydy hynny ddim 'di digwydd.
"Diffodd y teledu, diffodd y radio a bod mewn ystafell dywyll dwi'n meddwl. Does gen i ddim diddordeb o gwbl."
Yn 么l Morfydd Owen: "Mae'n iawn i bawb dathlu, ond bydde well gen i gael G诺yl y Banc i ddathlu Dydd G诺yl Dewi yn hytrach na'r Frenhines".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022