Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Costau byw: 'Rhaid lleihau'r stigma ynghylch banciau bwyd'
- Awdur, Ben Price
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Pan gollodd g诺r Tracy Murphy o Aberfan ei swydd oherwydd salwch, bu'n rhaid i'w theulu droi at fanc bwyd am help.
Teimlodd ei g诺r gywilydd oherwydd y stigma sy'n gysylltiedig 芒'u defnyddio, meddai.
Cafodd dros 131,000 o becynnau bwyd eu dosbarthu gan fanciau bwyd y Trussell Trust yng Nghymru y llynedd.
Ond mae pobl sy'n byw mewn cymunedau clos yn fwy tebygol o beidio defnyddio banciau bwyd rhag i eraill eu beirniadu, yn 么l ymchwilwyr.
Mae Dr Andrew Williams o Brifysgol Caerdydd wedi astudio banciau bwyd ers 2014, ac wedi cyfweld 芒 dros 100 o wirfoddolwyr a defnyddwyr banciau bwyd.
"Rydw i wedi siarad 芒 phobl sydd wedi cerdded 12 milltir i dref gwahanol er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n derbyn pecyn bwyd gan athro eu plentyn oedd yn gwirfoddoli yn y banc bwyd lleol.
"Mewn cymunedau clos lle mae pawb yn adnabod busnes ei gilydd mae amharodrwydd i gyhoeddi eich bod yn stryglan," meddai.
Mae pobl sydd angen help yn osgoi banciau bwyd, yn 么l Dr Williams.
Ei obaith yw gweld newid i'r system docynnau banciau bwyd sy'n dangos bod rhywun yn gymwys i dderbyn bwyd am ddim, ac yn lle, hoffai weld mwy o hybiau cymunedol ar gyfer bwyd rhad neu fwyd am ddim yn lle.
"Y stigma o orfod dibynnu ar fwyd am ddim oedd y rheswm dros deimlo embaras. Balchder hefyd, si诺r o fod.
"Dydyn ni erioed wedi gofyn am help gan unrhyw un arall yn y gorffennol. Roedd hwn yn brofiad gwbl newydd," dywedodd Tracy Murphy.
Prosiect i chwalu'r stigma
Erbyn hyn mae Ms Murphy yn gofalu am ei g诺r ac yn gwirfoddoli gyda phrosiect lleol, 'H Factor'.
Mae'r prosiect yn Aberfan yn sefydlu pantri bwyd a fydd yn rhoi cyfle i unrhyw un sy'n byw yn yr ardal i brynu bwyd am brisiau isel iawn.
Lynne Colston sy'n gyfrifol am sefydlu'r pantri gydag 20 aelod o staff. Fe fydd y pantri'n gweithredu o garej gwesty lleol.
"Rydyn ni'n trio cael gwared ar y stigma sydd o gwmpas banciau bwyd a gwneud bwyd ar gael i bawb am brisiau isel iawn," meddai Ms Colston.
"Dw i ddim yn credu ein bod ni'n gwybod pwy yw'r bobl mwyaf tlawd bellach. Roedden ni fel arfer yn ystyried y bobl ar fudd-daliadau fel y rhai tlawd, ond nawr mae pobl sy'n gweithio hefyd yn stryglan."
'Ddim am i eraill wybod am eu problemau'
Mae Lowri Farnham yn wirfoddolwr sy'n gweithio yng ngardd Afon Gwreiddiau sy'n rhan o brosiect H Factor. Mae'r ardd yn tyfu bwyd sy'n cael ei gynnig i bobl leol am brisiau rhad iawn.
"Rydyn ni wedi siarad 芒 rhai pobl yn y gymuned ac maen nhw'n teimlo siom o orfod mynd i'r banc bwyd, a dydyn nhw ddim am i bobl eraill yn y gymuned wybod am eu problemau.
"Ond mae hwn ar agor i bawb ac mae pobl yn gallu dod yma i fwynhau felly does yna ddim stigma."
"Gyda'r haf yn dod a phopeth yn tyfu mor gyflym, bydd siawns i bobl ddod i'r siop i bigo beth bynnag maen nhw eisiau.
"Ond hefyd os ydyn nhw'n sb茂o ar rywbeth sydd yn yr ardd yna mae nhw'n gallu dod i bigo fe hefyd," meddai.
Tu hwnt i gynnig help i deuluoedd sy'n ei chael yn anodd fforddio bwyd, mae siop dros dro wedi agor yng nghanolfan siopa'r Cwadrant yn Abertawe.
Mae'n galluogi pobl i logi nwyddau i ddefnyddio o amgylch y t欧 ac ym mywyd bob dydd - er enghraifft, sugnwyr llwch, driliau a phramiau.
Dywedodd Rebecca Jones, swyddog marchnata Cwadrant Abertawe: "Y peth yw, mae costau byw yn mynd lan gymaint, y peth pwysicaf i bobl yw eu bod nhw'n gallu talu'r rhent, neu'r morgais - neu eu bod nhw'n gallu bwydo'r teulu.
"Wedyn mae siop fel hyn yn gwneud e'n bosib i bobl wneud pethau i'r t欧 ac i'r ardd heb orfod poeni am gostau mawr upfront fel petai."