Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Arestio dyn wedi marwolaeth seiclwraig ar yr A40
Mae dyn wedi'i arestio ar 么l i fenyw gael ei lladd ar 么l cael ei tharo gan fan tra'n seiclo yn Sir Fynwy.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A40 ger pentref Rhaglan tua 19:20 nos Iau.
Dywed Heddlu Gwent bod y fenyw wedi marw yn y fan a'r lle ar 么l cael ei tharo gan fan Vauxhall Movano gwyn.
Mae dyn 46 oed o'r Fenni yn y ddalfa ar 么l cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.
Mae'r A40 wedi bod ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng y cylchdro yn Rhaglan a system gylchu Hardwick.
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i berthnasau'r fenyw a fu farw, ac mae'r llu'n awyddus i dderbyn gwybodaeth a lluniau gan unrhyw un oedd yn ardal yr A40 rhwng 19:00 a 19:30 nos Iau.