大象传媒

Dros hanner nyrsys Cymru wedi digalonni, yn 么l arolwg

  • Cyhoeddwyd
NyrsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd dim ond un ym mhob pum nyrs fod ganddynt yr amser i roi gofal dymunol i gleifion

Mae dros hanner nyrsys Cymru wedi digalonni o ganlyniad i argyfwng staffio, yn 么l arolwg newydd.

Mae data'r Coleg Nyrsio Brenhinol (CNB) yn dangos fod 78% o nyrsys yn teimlo bod diffyg staffio yn amharu ar ofal cleifion.

Er bod y canlyniadau'n siomedig, meddai cyfarwyddwr y coleg Helen Whyley, dydyn nhw "ddim yn syndod".

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ceisio cynyddu staffio trwy strategaethau recriwtio a chadw gweithwyr.

Ym mis Mawrth 2022, fe wnaeth y CNB ofyn i 1,000 o nyrsys a staff bydwreigiaeth adrodd yn 么l ar eu shifft ddiwethaf.

Dim ond un ym mhob pum nyrs yng Nghymru ddywedodd fod ganddynt ddigon o amser i gynnig lefel ddymunol o ofal i gleifion, yn 么l yr adroddiad.

Yn ogystal, dywedodd un ym mhob tri nad oedd gofal angenrheidiol yn cael ei gyflawni oherwydd diffyg amser.

'Damwain sy'n aros i ddigwydd'

"Dwi wedi digalonni ac yn teimlo dan straen yn gyson yn sgil y llwyth gwaith anferth sydd wedi ei osod arna i," meddai un nyrs yn y gwasanaeth iechyd wrth y CNB.

"Dwi'n teimlo fod blaenoriaeth gofal wedi newid i reoli achosion sydd 芒 risg uchel yn gyntaf, ond heb y sicrwydd fod elfennau sylfaenol gofal yn cael eu cynnal.

"Mae bywyd fel nyrs yn teimlo fel un risg enfawr, sydd hefyd yn teimlo fel damwain sy'n aros i ddigwydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bywyd fel nyrs yn "teimlo fel un risg enfawr", medd un

Dywedodd Helen Whyley: "Rydyn ni'n gwybod fod cael y nifer cywir o nyrsys cymwys, deallus a phrofiadol yn amddiffyn y cyhoedd a'r proffesiwn nyrsio.

"Mae angen mwy o nyrsys yng Nghymru... ni fydd y problemau hyn yn diflannu, ac mae angen i'r llywodraeth fuddsoddi mewn nyrsio i sicrhau diogelwch cleifion yng Nghymru."

'Nifer y nyrsys yn tyfu'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweithio i gynyddu niferoedd staff drwy strategaethau recriwtio a chadw effeithiol, gan gynnwys recriwtio o dramor.

"Mae gan GIG Cymru hanes o gyflogi niferoedd uchel o staff, ac mae ganddi'r lefel uchaf o nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant.

"Mae nifer y nyrsys yng Nghymru yn parhau i dyfu ac mae'r cyfleoedd i hyfforddi wedi cynyddu 68% dros y pum mlynedd ddiwethaf.

"Mae lles, ymrwymiad a chadw staff yn flaenoriaethau canolog i'n strategaeth ni ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal. Fe fyddwn ni'n ystyried adroddiad y CNB yn ei gyfanrwydd pan rydyn ni'n ei dderbyn."