大象传媒

Wcr谩in: Oedi dros dro i gynllun ffoaduriaid Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
ffoaduriaid yn cyrraedd LvivFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynllun Llywodraeth Cymru wedi darparu dros 2,000 o fisas hyd yn hyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna oedi ym mis Mehefin wrth dderbyn ceisiadau ar gyfer eu cynllun i ffoaduriaid o Wcr谩in.

Dywed gweinidogion mai'r rheswm am yr oedi yw sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus "yn parhau i ddarparu safon uchel o gefnogaeth".

Maen nhw hefyd yn dweud bydd y cynllun "uwch-noddwr", sydd eisoes wedi dosbarthu dros 2,000 o fisas, yn rhoi cyfle iddynt "wella" y trefniadau ar gyfer y ffoaduriaid sy'n cyrraedd yma.

Dywedodd Jane Hutt, y gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol, y bydd y cyfnod o oedi yn dechrau ar ddydd Gwener, 10 Mehefin.

Ni fydd yr oedi yn effeithio ar geisiadau sydd wedi dod i law, lle mae trefniadau teithio wedi eu cadarnhau.

Dywedodd Ms Hutt: "Rydym wedi gweld nifer y fisas sydd wedi eu darparu yn uwch o dipyn na'r ffigwr gwreiddiol gafodd ei grybwyll wrth i ni roi ymroi i groesawu pobl.

"Fe fydd yr oedi dros dro yn rhoi cyfle i ni finiogi'r trefniadau i gefnogi pobl wrth iddynt gyrraedd ac i sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus, awdurdodau lleol yn benodol, yn gallu parhau i ddarparu safon uchel o gefnogaeth.

"Fe allwn fod yn falch o'n hymdrechion arwrol i gefnogi pobl Wcr谩in, gan ddangos fod Cymru yn genedl noddfa go iawn."

Ffynhonnell y llun, REUTERS/Bernadett Szabo

Mewn ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, ei fod yn siomedig iawn.

"Gyda'r sefyllfa mewn rhannau o Wcr谩in yn parhau i ddirywio, mae hi o'r pwysigrwydd mwyaf fod y cynllun yn parhau," meddai.

"Dyw e ddim bwys sut maen nhw'n ceisio cyflwyno hyn, mae'n fethiant.

"Fe gafodd y cynllun ei lansio gyda llawer o gyhoeddusrwydd yn Ebrill, a dyw hi ond wedi cymryd wyth wythnos i weinidogion gamu'n 么l."

Pynciau cysylltiedig