Eisteddfod Llangollen 1947: Oeddech chi yno?

Ffynhonnell y llun, Ceidiog Hughes

Disgrifiad o'r llun, Mae Moira Humphreys yn gobeithio clywed gan bobl eraill oedd yn yr eisteddfod ryngwladol gyntaf yn 1947

Mae gan Moira Humphreys, 92 oed, atgofion melys o gystadlu yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn 1947.

Er mwyn nodi 75 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf, mae Moira yn arwain ymgyrch i ddod o hyd i bobl wnaeth gystadlu yn 1947.

"Dwi'n si诺r fydd na neb h欧n na fi, dyna sefyllfa heddiw, ond dwi yma o hyd, felly fe gawn ni weld," meddai Moira o Goedpoeth ger Wrecsam ar raglen Bore Cothi, 大象传媒 Radio Cymru.

Yn ei harddegau oedd Moira yn 1947 pan fu'n aelod o G么r Ieuenctid Coedpoeth. Sefydlwyd yr Eisteddfod fel g诺yl i hybu heddwch yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Eglura Moira: "Oedd 'na ddyn o Goedpoeth wedi bod i'r Eisteddfod Genedlaethol, toc wedi'r rhyfel wrth gwrs, ac oedd o'n meddwl, fasa fo'n neis tasa pawb yn canu, ond oedd y Genedlaethol jest yn canu yn Gymraeg. Felly aeth Harold Tudor i Langollen i weld W.S Gwynn Williams - oedd o ar y pwyllgor cyfieithu ac yn ymwneud 芒 phethe mewn gwahanol ieithoedd - a ddaru o gymryd at y syniad o Eisteddfod Llangollen a dyna lle ddaru o ddechre.

"Wedyn wrth gwrs, ar 么l y rhyfel roedd pobl wedi bod yn gwneud cysylltiad efo gwledydd eraill a dyna sut ddaru'r holl beth international ddechre."

Ffynhonnell y llun, Ceidiog Hughes

Disgrifiad o'r llun, Moira gyda Ch么r Ieuenctid Coedpoeth yn 1947

Atgofion Moira

Teithiodd perfformwyr o saith gwlad dramor i Langollen ar gyfer yr 诺yl agoriadol yn 1947, gyda thua 27 o gorau o Gymru, Lloegr a'r Alban.

Ddegawdau'n ddiweddarach mae mwy na 400,000 o gystadleuwyr o 140 o genhedloedd wedi perfformio ar y llwyfan byd enwog.

Disgrifiad o'r llun, Llinynnau soniarus Ensemble Guzheng yn perfformio yn Llangollen yn 2018

Brith yw cof Moira o'r Eisteddfod gyntaf un 75 o flynyddoedd yn ddiweddarach: "Dwi ddim yn cofio lot ond oedd o'n lot llai nag ydy o heddiw, oedd pobl yn siarad Saesneg rhan fwyaf a doedd dim llawer o bobl o wledydd eraill. Wnaeth hynny dyfu dros y blynyddoedd.

"Doedd 'na ddim bricks a mortar a phethe felly, mae wedi tyfu o sut oedd pethe o'r dechre wrth gwrs, un peth ar 么l y llall, fel mae popeth arall yn tyfu."

Dros y saith degawd dilynol parhaodd Moira i fynychu'r Eisteddfod, gan ymuno 芒'r fyddin o wirfoddolwyr y tu ol i'r llenni a gweithio gyda'r t卯m lletygarwch i ddod o hyd i lety lleol i gystadleuwyr tramor, ac yn fwy diweddar bu'n helpu i groesawu ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd y maes.

"Dwi'n cofio un flwyddyn, ddaru rhywun o Lesotho aros yn Coedpoeth a ddaru ni gael mynd yno ar wyliau wedyn, oedd o'n bitiwffwl," meddai Moira.

Ffynhonnell y llun, Ceidiog Hughes

Disgrifiad o'r llun, Gwneud ffrindiau oes 芒 phobl o Lesotho

"Dwi wedi bod i'r Almaen hefyd ar 么l i mi ffeindio llety i Almaenwyr oedd yn dod i Langollen. Oedden ni mor falch o'u gwadd a'u croesawu nhw a nhw mor falch o'n gwadd ni.

"Pan oedd pobl o dramor yn aros yn Coedpoeth bydden ni'n dal y bws efo nhw i Langollen, bwydo nhw a dod 芒 nhw adre i gysgu. Oedd pobl y pentre yn edrych ymlaen at eu cael nhw, a mynd i'r Paris Hall i gael nhw yn canu i ni, a ni yn canu iddyn nhw. Oedd y cysylltiad mor glos a lyfli."

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2022

Eleni, mae maes Eisteddfod Llangollen yn dychwelyd rhwng 7-10 Gorffennaf. Gohirwyd yr 诺yl yn sgil y pandemig yn 2020 a bu'n rhaid cynnal g诺yl rithiol yn 2021.

Mae Moira yn edrych ymlaen at fynd i'r Eisteddfod eleni yng nghwmni ei merch, ac er na fydd hi'n cystadlu flwyddyn yma fel y gwnaeth hi'n 1947, bydd hi dal yn cael ei gwobrwyo.

Mae'n fwriad gan drefnwyr yr Eisteddfod i gyflwyno medalau coffa i Moira a'i chyd-gystadleuwyr o 1947 i nodi 75 mlynedd ers yr 诺yl gyntaf.

Gobaith Moira yw y bydd rhai o gystadleuwyr Eisteddfod 1947 yn bresennol: "Byddai'n braf gwybod bod yna hen gystadleuwyr fel fi dal allan yna. Mae'n syniad mor braf eu cydnabod ym mlwyddyn y dathliad yma."

Disgrifiad o'r llun, Mae'n draddodiad i'r Eisteddfod gychwyn pob blwyddyn gyda gorymdaith trwy ganol tref Llangollen. Sgwn i a fydd gorymdaith yn 2022?

Os ydych chi yn adnabod unrhyw un wnaeth gystadlu yn yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen gyntaf erioed yn 1947 cysylltwch 芒'r Eisteddfod neu 大象传媒 Cymru Fyw.

Hefyd o ddiddordeb: