大象传媒

Cynllun talebau 拢4m i leddfu biliau ynni y mwyaf agored i niwed

  • Cyhoeddwyd
Person yn coginio ar hob nwyFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd rhai o'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael cymorth pellach gyda biliau ynni.

Bydd y cymorth ychwanegol yn targedu pobl sydd 芒 mesuryddion talu ymlaen llaw ac aelwydydd nad ydynt wedi'u cysylltu 芒'r prif gyflenwad nwy.

Mae'r cynllun talebau gwerth 拢4m yn cael ei lansio gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ddydd Gwener.

Daw'r cyhoeddiad wrth i ffigyrau ddangos mai pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw yng ngogledd Cymru sydd wedi dioddef waethaf yn y DU o ganlyniad i ffioedd sefydlog cynyddol, gyda chostau'n cynyddu 102%.

I bobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn ne Cymru, mae'r ffioedd sefydlog wedi codi 94%. Dim ond tair ardal arall ym Mhrydain sydd wedi gweld cynnydd uwch.

120,000 o bobl

Bydd bron i 120,000 o bobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn gymwys i gael tua 49,000 o dalebau i'w cefnogi yn ystod yr argyfwng costau byw, meddai Llywodraeth Cymru

Bydd talebau'n amrywio o 拢30 ym misoedd yr haf i 拢49 yn y gaeaf, a bydd aelwydydd yn derbyn hyd at dair taleb dros gyfnod o chwe mis.

Bydd y 拢4m o gyllid newydd yn galluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun talebau cenedlaethol, gan ddarparu cymorth uniongyrchol i aelwydydd cymwys sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu 芒 rhwydwaith y prif gyflenwad nwy.

Bydd y 拢4m hefyd yn darparu ar gyfer Cronfa Wres, a fydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i aelwydydd cymwys nad ydynt ar y grid nwy, sy'n dibynnu ar olew a nwy hylifedig.

Bydd hyn yn helpu tua 2,000 o aelwydydd ledled Cymru, medd y llywodraeth.

Disgrifiad,

Costau byw: 'Ti'n goro gwylio bob dim ti'n neud'

Mae Jane Hutt yn ymweld 芒 banc bwyd yn Wrecsam ddydd Gwener er mwyn gweld y cymorth sydd ar gael i bobl sy'n ceisio cydbwyso costau ynni cynyddol 芒 rhoi bwyd ar y bwrdd.

Dywedodd: "Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith ysgubol ar bobl yng Nghymru.

"Heddiw, mae bron i hanner aelwydydd Cymru mewn perygl o'u cael eu hunain mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn hynod frawychus.

"Rydyn ni'n buddsoddi 拢4m ychwanegol yn y Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun cenedlaethol sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac sy'n cefnogi'r bobl fwyaf anghenus."

Fis diwethaf, cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak y bydd pob aelwyd yn y DU yn cael gostyngiad o 拢400 ar eu biliau ynni yn yr hydref i helpu pobl ymdopi 芒 phrisiau cynyddol.

Bydd yr aelwydydd tlotaf hefyd yn cael taliad un tro o 拢650 at gostau byw, meddai.