Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi datgelu enwau'r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022.
Cafodd pedwar categori yn y Gymraeg a'r Saesneg - Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc - eu cyhoeddi ar raglen Stiwdio ar 大象传媒 Radio Cymru nos Lun.
Ar y panel beirniadu Cymraeg eleni mae'r darlledwr Mirain Iwerydd, cyflwynydd Sioe Frecwast dydd Sul 大象传媒 Radio Cymru 2; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur y cyfnodolyn academaidd, Ll锚n Cymru, Siwan Rosser; a'r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.
Dywedodd Melanie Owen ei bod hi'n "fraint enfawr i gael bod yn aelod o'r panel" a bod y trafodaethau wedi bod yn "fywiog ac angerddol".
Yn 么l Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru, mae'r wobr yn "gyfle i ni ddangos gwerthfawrogiad i'n awduron talentog - i ddiolch iddynt am ein diddanu, ac am greu dihangfa i ni rhwng cloriau eu llyfrau".
"Mae hyn yn fwy gwir nac erioed yn dilyn dwy flynedd heriol, ac am hynny mae ein diolch yn fwy nag erioed," meddai.
Rhestr Fer Gymraeg 2022
Gwobr Farddoniaeth
- Cawod Lwch, Rhys Iorwerth (Gwasg Carreg Gwalch)
- merch y llyn, Grug Muse (Cyhoeddiadau'r Stamp)
- Stafelloedd Amhenodol, Iestyn Tyne (Cyhoeddiadau'r Stamp)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
- Dod 'N么l at fy Nghoed, Carys Eleri (Y Lolfa)
- Paid 芒 Bod Ofn , Non Parry (Y Lolfa)
- Eigra: Hogan Fach o'r Blaena, Eigra Lewis Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Ffuglen Cymraeg@PrifysgolBangor
- Mori, Ffion Dafis (Y Lolfa)
- Hela, Aled Hughes (Y Lolfa)
- Hannah-Jane, Lleucu Roberts (Y Lolfa)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
- Pam?, Luned Aaron a Huw Aaron (Y Lolfa)
- Gwag y Nos, Sioned Wyn Roberts (Atebol)
- Y Pump - awduron amrywiol (Y Lolfa)
Bydd Rhestr Fer y gwobrau Saesneg yn cael ei gyhoeddi ar The Arts Show ar 大象传媒 Radio Wales nos Wener 1 Gorffennaf.
Bydd enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar 大象传媒 Radio Cymru rhwng 19-21 Gorffennaf.