Y Cae Ras yn 么l yn nwylo Clwb P锚l-Droed Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Glynd诺r wedi cadarnhau fod stadiwm y Cae Ras bellach yn 么l yn nwylo Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Wrecsam.
Prifysgol Glynd诺r sydd wedi bod yn berchen ar y tir ers 2011, yn ystod cyfnod pan fu cryn ansicrwydd am ddyfodol y clwb.
Mae gan y clwb berthynas dda gyda'r brifysgol, a'r clwb sydd eisoes yn gyfrifol am reoli'r stadiwm wedi iddo arwyddo les 99 mlynedd yn 2016.
Ers hynny mae'r dyfodol yn edrych yn fwy diogel fyth, gyda'r s锚r Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney bellach yn berchnogion.
Yn gynharach eleni, dywedodd y ddau y byddai cael bod yn berchen ar y Cae Ras yn eu rhoi "芒 rheolaeth dros ein tynged ein hunan".
Gan gadarnhau'r trosglwyddiad ddydd Mercher, dywedodd Prifysgol Glynd诺r mai dyma oedd yr amser iawn i drosglwyddo perchnogaeth y tir.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid Prifysgol Glynd诺r, David Elcock, ei bod hi wedi bod yn "anrhydedd mawr i ni fod yn geidwaid y stadiwm p锚l-droed rhyngwladol hynaf yn y byd".
Ychwanegodd fod y pryniant yn "hanfodol i helpu i gadw'r clwb p锚l-droed yn fyw yn ystod haf lle cododd y cefnogwyr dros 拢100,000 mewn diwrnod dim ond i gadw'r clwb mewn bodolaeth".
Pwysleisiodd arolwg ym mis Tachwedd 2021 fod nifer yn awyddus i weld y stadiwm o dan reolaeth y clwb p锚l-droed.
"Dros 10 mlynedd yn ddiweddarach mae'n bryd i ni drosglwyddo'r stadiwm yn 么l i'r clwb o dan ei berchnogaeth newydd fel y gallant fwrw ymlaen 芒'r datblygiadau a'r gwelliannau cyffrous y maent wedi'u cynllunio," meddai Mr Elcock.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Awst 2021