大象传媒

Gweinidog Iechyd 芒'i 'phen yn fy nwylo' dros gyflwr y GIG

  • Cyhoeddwyd
Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r gweinidog iechyd yn rhoi ei "phen yn fy nwylo" bob nos dros gyflwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd Eluned Morgan AS ei bod yn ceisio gwella'r sefyllfa, ac yn ceisio "cadw ffocws".

Daw ei sylwadau yn sgil beirniadaeth o restrau aros am driniaeth llygaid, a rhybudd am "lanw o ddallineb y gellid osgoi".

Dywedodd Ms Morgan wrth raglen Wales Live ei bod yn anobeithio ar adegau: "Dwi'n mynd gartre' bob nos a rhoi fy mhen yn fy nwylo. Mae'n anodd, mae'n anodd iawn."

Ond ychwanegodd ei bod yn bwysig "cadw ffocws" gan fod gymaint o bobl yn aros, "a llawer ohonynt mewn poen wrth aros".

"Yn sicr ein cyfrifoldeb ni yw ceisio gwella pethau cyn gynted ag y bo' modd."

Heb ystyried ymddiswyddo

Yr wythnos ddiwethaf fe gafodd Ms Morgan gerydd swyddogol yn y Senedd, a hynny ar 么l cael ei gwahardd rhag gyrru am oryrru ar sawl achlysur.

Ond dywedodd nad oedd wedi ystyried ymddiswyddo ers ei gwaharddiad gyrru.

"Na, dydw i heb - cyn belled a bod gan Mark Drakeford hyder ynof fi, dwi'n barod i barhau," meddai.

"Dwi'n gwybod na ddylen i fod wedi goryrru. Dy'ch chi'n gwybod fy mod wedi ymddiheuro.

"Dwi ddim yn gwybod sawl gwaith fydd angen i mi ymddiheuro, ond dwi wir yn difaru, a dweud y gwir dwi'n talu pris eithaf drud am hynny."

Dywedodd nad oedd y cerydd yn mynd i effeithio ar ystyriaethau dros arwain y blaid yn y dyfodol, gan ei bod "yn canolbwyntio gymaint ar fy swydd".

"Nid o'r sefyllfa gyrru yn unig mae'r holl bwysau dwi'n teimlo, ond o boeni am y bobl sydd ar restrau aros.

"Dyna sy'n fy nghadw'n effro gyda'r nos."

Bydd Wales Live ar 大象传媒 One Wales am 22:35 nos Fercher neu ar iPlayer.