大象传媒

Cwot芒u rhywedd yn 'greiddiol' i gynllun ehangu Senedd

  • Cyhoeddwyd
SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai cynyddu'r aelodaeth o 60 i 96 yn dod 芒'r Senedd yn debyg i Gynulliad Gogledd Iwerddon o ran nifer yr aelodau

Mae cynlluniau i gael mwy o fenywod yn y Senedd yn "gwbl greiddiol" i'r cynigion i'w ehangu, yn 么l elusen.

Dywedodd Cerys Furlong o Chwarae Teg bod yn rhaid i gwot芒u rhywedd gael eu cyflwyno fel rhan o'r newidiadau posib eraill erbyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.

Mae rhai wedi honni y gallai cwot芒u rhywedd beryglu cynlluniau ehangach i gynyddu nifer aelodau'r Senedd a chyflwyno system bleidleisio newydd.

Dywedodd un aelod Llafur Cymru y byddai'n anodd rhagweld beth fyddai canlyniad cyflwyno cwot芒u rhywedd yn y Senedd, ond ychwanegodd ei fod yn bosib.

Ddydd Sadwrn, fe bleidleisiodd aelodau Llafur Cymru dros gefnogi cynlluniau llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ehangu'r Senedd.

Yn ogystal 芒 chwot芒u rhywedd er mwyn annog gwell cynrychiolaeth benywaidd, mae'r newidiadau posib yn cynnwys cynyddu nifer aelodau'r Senedd o 60 i 96, gyda chwech aelod yn cynrychioli bob un o'r 16 etholaeth.

Byddai system bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol 芒 rhestrau caeedig yn rhoi un bleidlais i bobl, gyda'r pleidiau gwleidyddol yn penderfynu ar drefn yr ymgeiswyr.

Er gwaethaf pryderon gan rai pleidiau Llafur lleol ac undebau masnach am y system bleidleisio sydd wedi ei gynnig, cafodd y pecyn yn ei gyfanrwydd ei gefnogi o 74% o blaid a 24% yn erbyn yng nghynhadledd Llafur Cymru ddydd Sadwrn.

Wrth siarad ar raglen 大象传媒 Politics Wales ddydd Sul, dywedodd yr A.S Llafur a chadeirydd y pwyllgor ar ehangu'r Senedd, Huw Irranca-Davies, fod y system rhestrau caeedig yn "ein galluogi i fynd lawer ymhellach gydag amrywiaeth rhywedd".

Fe wrthododd honiad yr A.S. Ceidwadol Darren Millar fod pwyllgor ehangu'r Senedd wedi derbyn cyngor cyfreithiol "clir" nad oes gan Senedd Cymru y p诺er i gyflwyno cwot芒u rhywedd gan ei fod yn fater i Senedd y DU.

Dywedodd Mr Irranca-Davies ei fod yn "hyderus" y byddai cwot芒u rhywedd mewn lle erbyn yr etholiad nesaf yn 2026, er bod y "cyngor yn dangos ei fod yn anodd rhagweld y canlyniad... mi all gael ei wneud".

Yn 么l A.S. Plaid Cymru Rhys ab Owen, byddai'r newidiadau yn nodi "naid fawr ymlaen yn hanes datganoli Cymru" a bod ei blaid eisiau gweld cwot芒u rhywedd yn rhan o'r ddeddfwriaeth ar gyfer etholiad nesaf y Senedd.

Er gwaethaf ei wrthwynebiad i'r pecyn o gynlluniau i newid y Senedd, gan gynnwys cwot芒u rhywedd, dywedodd yr A.S. Ceidwadol, Tom Giffard, wrth raglen Politics Wales bod angen i'w blaid "wneud llawer mwy pan mae'n dod i rywedd ac amrywiaeth".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cerys Furlong o elusen Chwarae Teg yn dweud bod yn rhaid i gwot芒u rhywedd gael eu cyflwyno

Wrth groesawu'r cynigion am newidiadau, dywedodd prif weithredwr elusen Chwarae Teg, Cerys Furlong, bod yn rhaid i gwot芒u rhywedd fod yn rhan ganolog o'r pecyn.

Ychwanegodd: "Os mai pwynt y newid yw ehangu'r Senedd i alluogi mwy o graffu yna dyw'r craffu hynny ddim yn mynd i ddigwydd trwy fethu 芒 mynd i'r afael 芒 diffyg amrywiaeth.

"Felly, mae'n gwbl allweddol i gynllun ehangu'r Senedd ein bod ni'n cael y cwot芒u hynny mewn lle a bod hynny ddim yn 么l-ystyriaeth fel, yn anffodus, sy'n digwydd yn rhy aml."

Pynciau cysylltiedig