'Ymddiswyddwch' medd grŵp o weinidogion cabinet i Boris Johnson
- Cyhoeddwyd
Roedd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart ymhlith grŵp o weinidogion cabinet sydd wedi dweud wrth y Prif Weinidog Boris Johnson i ymddiswyddo, mae'r ´óÏó´«Ã½ yn deall.
Roedd hynny cyn i Mr Hart ymddiswyddo o'i rôl yn ddiweddarach nos Fercher.
Y gred yw bod Nadhim Zahawi, a dderbyniodd rôl y canghellor ddydd Mawrth ar ôl i Rishi Sunak ymddiswyddo, ymhlith y ddirprwyaeth hefyd.
Mae Golygydd Gwleidyddol y ´óÏó´«Ã½ hefyd yn dweud bod yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel - sydd wedi bod yn gefnogol o Mr Johnson - wedi dweud wrth y Prif Weinidog i ymddiswyddo.
Ond y gred yw bod Mr Johnson wedi gwrthod y galwadau, a hynny ar ôl addewid i barhau yn y swydd yn gynharach yn y dydd.
Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn deall bod y grŵp hefyd yn cynnwys Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis a'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps.
Yn gynharach dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru bod cefnogaeth i'r prif weinidog yn fwyfwy "tenau".
Nos Fercher, James Davies oedd y trydydd AS Ceidwadol o Gymru i ymddiswyddo o'r llywodraeth.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi diswyddo Michael Gove, yr Ysgrifennydd Tai a chyn-ymgeisydd am yr arweinyddiaeth, a hynny ar ôl iddo alw ar y prif weinidog i roi'r gorau iddi.
Fe alwodd yr Ysgrifennydd Busnes, Kwasi Kwarteng, i'r prif weinidog ymddiswyddo hefyd.
Dywedodd Mr Hart wrth Rif 10 ddydd Mawrth bod y "gêm drosodd" i'r prif weinidog, ond ni ddylai fod yn rhaid i'r diwedd ddod oherwydd ymddiswyddiadau gweinidogol.
Mae rhai aelodau o'r cabinet, gan gynnwys Jacob Rees-Mogg, yn dal i ddweud eu bod yn cefnogi Mr Johnson.
Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn mynd at y prif weinidog i ddweud wrtho fod ei amser wrth y llyw ar ben, nid eu bod nhw'n ymddiswyddo.
Mae un o bob pump AS sydd â swyddi llywodraeth wedi rhoi'r gorau iddi ers dydd Mawrth.
Ddydd Mawrth, fe ymddiswyddodd y Canghellor Rishi Sunak ac Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid o gabinet Boris Johnson.
Fe gamodd y ddau i lawr mewn ymateb i'r ffordd wnaeth Boris Johnson ymdrin â honiadau o gamymddwyn yn erbyn Chris Pincher, cyn-Ddirprwy Brif Chwip y Ceidwadwyr.
Brynhawn Mercher, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, "dwi'n meddwl ein bod ni ar fin gweld y diwedd nawr ac mae'n fater o amser oherwydd yn amlwg mae'r mwyafrif seneddol yna wedi diflannu".
Dywedodd Mr Davies wrth y ´óÏó´«Ã½ ei bod hi'n "amser i'r prif weinidog fyfyrio ar ei sefyllfa a chaniatáu i rywun arall ymgymryd â'r fantell honno i gyflawni maniffesto'r Ceidwadwyr".
Yn gynharach yn y dydd, roedd Mr Davies wedi cydnabod bod cefnogaeth i'r prif weinidog ymhlith ASau Ceidwadol yn edrych yn fwyfwy "tenau".
Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi galw am etholiad cyffredinol i benderfynu pa blaid wleidyddol ddylai feddiannu Stryd Downing.
"Gadewch i bobl y Deyrnas Unedig benderfynu a yw hon yn llywodraeth y maen nhw am ei gweld yn parhau neu, fel dwi'n credu y bydden nhw eisiau, i weld dechrau newydd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022