Ehangu banc bwyd mewn mosg yn sgil argyfwng costau byw

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r galw am fanciau bwyd wedi cynyddu eleni

Mae mosg sydd hefyd yn gweithredu fel banc bwyd wedi dyblu mewn maint wrth i fwy o bobl wynebu trafferthion yn sgil argyfwng costau byw.

Bellach fe all mosg a banc bwyd Al-Ikhlas yng Nghaerdydd storio mwy o roddion a dosbarthu dwbl y bwyd.

Dywedodd staff eu bod yn falch y gallant "helpu mwy o bobl" wrth i'r galw gynyddu.

Yn y cyfamser dywed gweinyddwyr banc bwyd ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf, bod y nifer sy'n defnyddio'u gwasanaeth wedi cynyddu'n ddirfawr.

Disgrifiad o'r llun, Mae Mosg Al-Ikhlas wedi datblygu i gwrdd 芒 gofynion y gymuned

Mae'r ehangiad i adeilad Al-Ikhlas, yn ardal Adamsdown, Caerdydd yn golygu ei fod wedi tyfu o fod yn ganolfan dysgu Arabeg i fod yn fan gweddi a ddydd Gwener mae'r adeilad newydd tri llawr ar ei newydd wedd yn agor ei ddrysau.

Am y tro cyntaf hefyd bydd gan fenywod Mwslemaidd yr ardal ofod i'w hunain i wedd茂o a hynny am y tro cyntaf.

Mosg yn cwrdd 芒'r gofyn

Yn sgil ehangu'r adeilad mae'r mosg bellach yn gallu darparu 400 o becynnau bwyd yr wythnos i ateb y galw.

Dywedodd Mohammed Maybu Rahman: "Rwy'n hapus i allu cefnogi'r banc bwyd gan gyfrannu bwyd o fy mwyty yn y Barri [Bro Morgannwg]."

Disgrifiad o'r llun, Mohammed Maybu Rahman yn hapus i allu cefnogi'r banc bwyd

Yn 么l prif Imam y Mosg, Imam Ali, mae'r angen am y banc bwyd wedi cynyddu a dywed ei fod yn gobeithio bod modd ateb y galw cynyddol.

Dywedodd Ali, myfyriwr peirianneg sydd hefyd yn aelod o staff arlwyo Al-Ikhlas: "Mae mwy o le gyda ni i wedd茂o, ond yn bwysicach, i'r gymuned ehangach, gan ein bod yn rhedeg banc bwyd 'ma, mae'n golygu ein bod yn gallu storio mwy o fwyd a helpu mwy o bobl."

Mwy o alw am fanciau bwyd

Mae'r Trussell Trust yn dweud yn ystod y flwyddyn hyd at Fawrth 2022 bod 131,232 o becynnau bwyd argyfwng wedi'u dosbarthu gan gynnwys 48,500 o becynnau i blant.

Dywedodd banc bwyd Taf El谩i ym Mhont-y-clun fod y galw wedi dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - o 82 taleb ym Mehefin 2021 i 166 fis diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Banc bwyd Taf El谩i

Disgrifiad o'r llun, Andrew Butcher o Fanc bwyd Taf El谩i yn gofidio am sefyllfa rhai teuluoedd

Mae'r niferoedd yn gallu "mynd y tu hwnt i reolaeth" medd rheolwr prosiect yr elusen, Andrew Butcher.

Ychwanegodd "gyda phrisiau bwyd yn uchel a chostau tanwydd yn cynyddu, mae pobl yn gorfod gwneud y penderfyniad anodd rhwng rhoi bwyd ar y bwrdd, neu dalu'r biliau".

Dywedodd Mr Butcher bod rhai o ddefnyddwyr y banc bwyd yn gorfod dewis rhwng cael y we, fel bod eu plant yn gallu gwneud gwaith cartref, neu gael bwyd ar y bwrdd.

Ychwanegodd ei fod yn rhagweld y bydd y chwe wythnos o wyliau haf yn yr ysgolion yn mynd i fod yn anodd i deuluoedd.