Anwen Butten: Enwi capten T卯m Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd
Mae capten T卯m Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad eleni wedi dweud ei bod hi'n "anrhydedd" cael arwain ei gwlad.
Gyda 20 diwrnod cyn i'r Gemau ddechrau yn Birmingham, cyhoeddwyd fore Gwener mai Anwen Butten fydd capten newydd y t卯m.
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y bowliwr lawnt 49 oed ei bod hi'n "prowd iawn" i arwain t卯m sydd 芒 dros 200 o athletwyr.
Dyma fydd y chweched tro i Butten - sydd hefyd yn nyrs arbenigol sy'n trin cleifion 芒 chanser - gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Disgrifiodd y teimlad o dderbyn y newyddion fel "sypreis" ac un "emosiynol ofnadwy".
"Y peth mwyaf i fi yw i gynrychioli Cymru a chwarae bowls - dyna'r swydd rwy'n ei wneud [ac] i drial ennill medalau i Gymru."
Ychwanegodd Anwen Butten ei bod yn gobeithio "cefnogi'r t卯m, a rhoi hyder i'r t卯m a gobeithio gallu rhoi cefnogaeth i rai newydd sydd erioed wedi bod yn y Gemau o'r blaen".
"Mae'r gwaith caled wedi gwneud o'r blaen i cael paratoi cyn mynd i'r Gemau so gobeithio bydd pawb ar ei gorau a jest 'neud popeth gallai i'w gefnogi nhw," meddai.
Dywedodd Anwen Butten ei bod wedi "gweithio'n galed ofnadwy" i ail fagu hyder i chwarae eleni ar 么l cael llawdriniaeth ar ei phen-glin.
"Blwyddyn yn 么l o'n i byth yn meddwl byddwn i'n cael 'y'n dewis i chware i fod yn onest i bowlio i Gymru yn Gemau y Gymanwlad," meddai.
"[Dwi] wedi colli bach o hyder i fod yn onest gyda chi, a nawr wedi gweithio'n galed ofnadwy dros y flwyddyn dwetha' i gael yr hyder yna'n 么l."
Ychwanegodd ei bod "nawr yn chwarae'n dda, yn ymarfer yn dda a mae'r hyder yna nawr".
"Ac wrth gwrs wrth fod yn gapten hefyd mae'r hyder hyd yn oed yn fwy a ma'r nod yn [uwch] byth nawr i ennill medalau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022