Protestwyr yn meddiannu glofa Aberpergwm dros ffrae ehangu
- Cyhoeddwyd
Daeth mwy na 60 o brotestwyr gr诺p Extinction Rebellion i feddiannu glofa yn ne Cymru dros nos.
Dywedodd y protestwyr eu bod yn gwrthwynebu "tawelwch" Llywodraeth Cymru ar 么l i Lywodraeth y DU roi caniat芒d i gloddio am 40m tunnell arall o lo o'r safle yn Aberpergwm ger Glyn-nedd.
Fe gyrhaeddodd y gr诺p brynhawn Sul a daeth y gwrthdystio i ben fore Llun.
Cafodd saith o bobl eu harestio, yn 么l Heddlu De Cymru.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru yn flaenorol nad oes ganddi'r p诺er i wneud penderfyniadau ar y cynlluniau i ehangu, ac mae nawr yn wynebu arolwg barnwrol gan y Rhwydwaith Gweithredu Glo.
Ar 么l i'r gr诺p gyrraedd y safle yng Nghastell-nedd Port Talbot ddydd Sul, fe wnaeth rhai danio fflerau a dringo ar adeiladau.
Roedd nifer yn gwisgo siwtiau hazmat ac yn dal baneri du gyda logo'r gr诺p.
Mae Extinction Rebellion yn honni bod y drwydded gan Lywodraeth y DU yn mynd yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 Cymru, sy'n gofyn i gyrff cyhoeddus ystyried effaith hir-dymor eu penderfyniadau.
Maent yn galw ar y prif weinidog, Mark Drakeford a'r gweinidog hinsawdd, Julie James i ysgrifennu at yr Awdurdod Glo i wrthwynebu ehangu'r lofa.
Dywedodd gr诺p protest arall - Rhwydwaith Gweithredu Glo - y byddai'r gwaith yn allyrru 1.17 miliwn tunnell o nwy methan.
Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Grug, sy'n aelod o Extinction Rebellion: "Mae Llywodraeth Cymru wedi aros yn dawel ar y mater - mae 'na adolygiad barnwrol y mae'r Rhwydwaith Gweithredu Glo wedi ei gymryd.
"Mae'n bwysig iawn i amlinellu hyn i'r cyhoedd," ychwanegodd.
"Os yw'r cynllun ehangu hyn yn mynd yn ei flaen, bydd 100 miliwn o dunelli o CO2 yn cael ei ryddhau i'r aer, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dal i roi pwysau.
"Fe ymrwymodd Llywodraeth Cymru i Gytundeb Hinsawdd Glasgow, a ddaeth o COP26 ac sy'n benodol yn crybwyll glo...
"Os na allan nhw wneud unrhyw beth [am y cynllun ehangu] yna ddylen nhw o leiaf fod yn gofyn i'r penderfyniad gael ei wrthdroi a dweud nad ydyn nhw eisiau i hwn fynd yn ei flaen gan eu bod nhw wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a gwyrdd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "na allwn wneud sylw pellach ar achosion cyfreithiol".
"Rydym wedi bod yn glir nad oedd gennym y pwerau i wneud penderfyniad yn yr achos hwn gan ei fod yn rhagddyddio ein pwerau ar drwyddedu glo.
"Y mater sylfaenol yw cael Awdurdod Glo sydd 芒 dyletswydd i gynnal diwydiant glo yn y DU, ac rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i newid y ddyletswydd hon yn Neddf y Diwydiant Glo i fynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd."
Fe ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Yr Awdurdod Glo sy'n gyfrifol am drwyddedu pyllau glo, gan gynnwys ar gyfer Aberpergwm, ac nid oes gan weinidogion Llywodraeth y DU unrhyw r么l ffurfiol yn y broses drwyddedu.
"Safbwynt Llywodraeth y DU yw bod Deddf y Diwydiant Glo 1994 yn nodi, lle mae gweithredwr glo am gloddio yng Nghymru, rhaid iddynt gael caniat芒d gweinidogion Cymru fel rhan o'r cais am drwydded i wneud hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022