大象传媒

Rhybudd am dridiau o dywydd poeth eithriadol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Traeth Y BarriFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae galw ar i bobl gymryd gofal yn yr haul

Mae yna rybudd am dywydd poeth eithriadol yng Nghymru yr wythnos nesaf lle gallai'r tymheredd godi'n uwch na 32C mewn rhai ardaloedd.

Bydd rhybudd ambr mewn grym gan y Swyddfa Dywydd yn nwyrain y wlad rhwng dydd Sul 17 Gorffennaf a dydd Mawrth 19 Gorffennaf.

Mewn cyhoeddiad newydd ddydd Mawrth, dywedodd y swyddfa y gallai'r gwres effeithio ar ddiogelwch ac iechyd pobl.

Mae disgwyl y bydd angen addasu arferion gweithio a bywyd dydd i ddydd.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae'r rhybydd ambr, rhybydd o dywydd poeth eithriadol, ar gyfer siroedd: Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam.

Yn 么l cyngor meddygol, dylai rhieni a gwarchodwyr sicrhau fod plant yn yfed digonedd o dd诺r, defnyddio eli haul a dod o hyd i lefydd cysgodol i chwarae.

Mae rhybudd hefyd y gallai'r tywydd arwain at oedi ar y ffyrdd, trenau a meysydd awyr.

Dydd Mercher, dywedodd prif filfeddyg y Sioe Fawr bod ganddo bryderon am anifeiliaid yn y sioe yr wythnos nesaf, gan ddweud bod "anifeiliaid yn dioddef fel pobl - os nad yn waeth - mewn gwres mawr".

2,000 o alwadau 999 mewn diwrnod

Yn 么l Lee Brooks, un o gyfarwyddwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae tywydd poeth yn gallu arwain i fwy o bobl yn diodde' gyda phroblemau anadlu.

Dywedodd ei bod yn bwysig fod pobl yn cymryd gofal yn yr amgylchiadau er mwyn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth.

"Cawsom bron i 2,000 o alwadau 999 ar ddydd Sul yn unig, mae hynny tua un galwad pob munud.

"Mae tywydd poeth yn golygu fod yn rhaid i'r corff weithio yn galetach i gadw ei dymheredd craidd ar lefelau normal, ac mae hynny'n golygu mwy o straen ar y galon, ysgyfaint ac arenau."

Ffynhonnell y llun, Save the Tennant Canal
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gr诺p o wirfoddolwyr yn poeni fod cannoedd o bysgod bach yn nofio mewn d诺r isel iawn mewn camlas ger Abertawe

Mae pysgota wedi cael ei wahardd mewn dwy afon yng Nghymru oherwydd lefelau d诺r isel iawn.

Dim ond 66% o'r glaw oedd i ddisgwyl yng Nghymru sydd wedi syrthio rhwng Mawrth a Mehefin eleni, gan arwain at bryder grwpiau bywyd gwyllt.

Ni fydd hawl gan bobl bysgota yn afonydd Gwy na Wysg ac mae pryderon gan wirfoddolwyr am lefelau d诺r Camlas Tennant yn Abertawe.

Dywedodd y gr诺p o wirfoddolwyr y gallai cannoedd o bysgod farw oherwydd lefelau d诺r isel a'r gwres.

Gofalu am y bregus

Mewn cynhadledd newyddion dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething, y dylai pawb ddilyn y cyngor swyddogol am sut i gadw'n ddiogel yn ystod y cyfnod poeth.

Anogodd ar bobl i helpu eu hunain a'r gwasanaeth iechyd drwy gymryd "camau syml", gan gynnwys defnyddio eli haul, cadw yn y cysgod cymaint 芒 phosib ac yfed digon o dd诺r.

Ychwanegodd y dylai pobl gymryd gofal o bobl sy'n fwy bregus yn arbennig - "yr hen iawn, ond plant hefyd" - yn ogystal ag anifeiliaid anwes.

"Meddyliwch am y cyngor i beidio 芒 gor-ymarfer anifeiliaid anwes mewn gwres eithafol ac i ofalu amdanyn nhw a gwneud yn si诺r eu bod nhw wedi'u hydradu'n dda hefyd," meddai.

"Bydd gennym ni bob amser gynlluniau brys yn eu lle, dan arweiniad gwahanol bartneriaid, os oes gwres eithafol a phwysau eithafol ar wasanaethau, ond fe all pob un ohonom ni chwarae ein rhan i helpu'r wlad i barhau i weithredu."

Pynciau cysylltiedig